Dilyniannau llinolFfactor cyffredin mwyaf a lluosrif cyffredin lleiaf

Dilyniant llinol ydy’r enw ar batrwm rhif sy’n cynyddu (neu’n lleihau) yr un faint bob tro. Y gwahaniaeth cyffredin ydy’r term am y maint y mae’n cynyddu neu’n lleihau.

Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau

Ffactor cyffredin mwyaf a lluosrif cyffredin lleiaf

Ffactorau unrhyw rif ydy’r rhifau sy’n rhannu i mewn iddo’n union.

Ffactor cyffredin mwyaf

Ffactorau \({12}\) ydy \({1},~{2},~{3},~{4},~{6}\) a \({12}\)

Ffactorau \({18}\) ydy \({1},~{2},~{3},~{6},~{9}\) a \({18}\)

Mae \({1},~{2},~{3}\) a \({6}\) yn ffactorau i \({12}\) ac \({18}\).

Felly maen nhw’n ffactorau cyffredin i \({12}\) ac \({18}\).

Felly ffactor cyffredin mwyaf \({12}\) ac \({18} \) ydy \({6}\).

Question

Beth ydy ffactor cyffredin mwyaf \({24}\) a \({30}\)?

Lluosrif cyffredin lleiaf

Lluosrifau unrhyw rif ydy'r rhifau y mae’r rhif yn rhannu i mewn iddyn nhw.

Lluosrifau \({4}\) ydy \({4},~{8},~{12},~{16},~{20},~{24},~{28},~{32},~{36},~{40},~{44}, ...\)

Lluosrifau \({6}\) ydy \({6},~{12},~{18},~{24},~{30},~{36},~{42},~{48},~{54},~{60},~{66}, ...\)

Mae \({12},~{24}\) a \({36}\) yn lluosrifau i \({4}\) a \({6}\) ac maen nhw’n cael eu galw’n lluosrifau cyffredin i \({4}\) a \({6}\).

Y rhif lleiaf sy’n lluosrif i \({4}\) a \({6}\) ydy \({12}\). Felly lluosrif cyffredin lleiaf \({4}\) a \({6}\) ydy \({12}\).

Question

Beth ydy lluosrif cyffredin lleiaf \({5}\) ac \({8}\)?

More guides on this topic