Dilyniannau llinolMwy am ganfod yr nfed term

Dilyniant llinol ydy’r enw ar batrwm rhif sy’n cynyddu (neu’n lleihau) yr un faint bob tro. Y gwahaniaeth cyffredin ydy’r term am y maint y mae’n cynyddu neu’n lleihau.

Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau

Mwy am ganfod yr nfed term

Felly mae gan y dilyniant rhifau yn nhabl \({5}\) wahaniaeth cyffredin o \({5}\) a'r \({n}^{fed}\) term ydy \({5n}\).

Diagram dilyniant llinol

Ond beth sy’n digwydd os bydd pethau’n mynd yn fwy cymhleth?

Diagram dilyniant llinol

\({5}\) ydy’r gwahaniaeth cyffredin o hyd, ond nid tabl \({5}\) sydd yma.

Dyma dabl \({5}\): \({5},~{10},~{15}, ...\)

Dyma’r dilyniant: \({7},~{12},~{17}, ...\)

Mae pob term yn y dilyniant \({2}\) yn fwy na’r term cyfatebol yn nhabl \({5}\), felly yr \({n}^{fed}\) term ydy \({5n} + {2}\).

Question

Beth ydy \({n}^{fed}\) term y dilyniant: \({8},~{11},~{14}, ...\) ?

More guides on this topic