Canfod y cymedr a’r dosbarth moddol ar gyfer data wedi eu grwpio
Amcangyfrif y cymedr ar sail data wedi eu grwpio
Question
Mae’r tabl hwn yn dangos pwysau plant mewn dosbarth.
Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon:
a) Amcangyfrifa’r pwysau cymedrig
b) Canfydda’r dosbarth modd
I amcangyfrif y pwysau cymedrig, rwyt ti’n gwybod bod \({7}\) o blant rhwng \({30}~{kg}\) a \({40}~{kg}\), ond dwyt ti ddim yn gwybod faint yn union maen nhw’n bwyso, felly cymera eu bod nhw i gyd yn pwyso \({35}~{kg}\) (canolbwynt y grŵp).
Gwna’r un peth ar gyfer y grwpiau eraill i gyd:
a) Amcangyfrif o’r cymedr = \({1,215}\div{25} = {48.6}~{kg}\).
b) Y dosbarth moddol ydy’r dosbarth sydd â’r amlder mwyaf. Yn yr achos hwn y dosbarth moddol ydy \({50}\leq{m}\textless{60}\).