Cymedr, canolrif, modd ac amrediadY modd

Y mesur cyfartaledd ydy’r rhif sy’n nodweddiadol ar gyfer set o ffigurau. Mae canfod y cyfartaledd yn help i ti dynnu casgliadau o’r data. Y prif fathau ydy’r cymedr, y canolrif a’r modd.

Part ofMathemategCyfartaleddau

Y modd

Canfod y modd

Question

Canfydda fodd y naill a’r llall o’r setiau rhifau canlynol:

a) \({3},~{7},~{1},~{3},~{4},~{8},~{3}\)

b) \({2},~{7},~{2},~{1},~{4},~{7},~{3}\)

Enghraifft

Yn y tabl amlder hwn, y modd ydy’r gwerth â’r amlder mwyaf:

Tabl yn dangos maint esgidiau, ac amledd

Yn yr enghraifft hon y maint esgid moddol ydy \({7}\), achos mae mwy o bobl yn cymryd maint \({7}\) nag unrhyw faint arall.