Canfod y cymedr ar gyfer tabl amlder
Enghraifft
Roedd Sara eisiau gwybod oedrannau'r plant ar ei bws ysgol (mewn blynyddoedd cyfan). Cynhaliodd arolwg, ac mae’r canlyniadau'n cael eu dangos isod:
I gael y cymedr adia bob oedran â’i gilydd a rhanna â chyfanswm nifer y plant.
Petaet ti’n teipio’r oedrannau hynny i gyd i mewn i gyfrifiannell mae’n debygol iawn y byddet ti’n gwneud camgymeriad neu’n anghofio ble rwyt ti yn y rhestr.
Byddai’n well pe baet ti’n gallu gweld y canlyniadau hyn wedi eu dangos mewn tabl amlder:
Mae’r tabl amlder yn dangos i ni bod chwech o blant \({11}\) oed, saith o blant \({12}\) oed, pump o blant \({13}\) oed ...ayyb.
I ganfod swm eu hoedrannau, cyfrifa:
\(({6}\times{11}) + ({7}\times{12}) + ({5}\times{13}) + ({7}\times{14}) + ({3}\times{15}) + ({2}\times{16}) = {390}\)
Cyfanswm nifer y plant ydy \({6} + {7} + {5} + {7} + {3} + {2} = {30}\).
Felly, yr oed gymedrig ydy \({390}\div{30} = {13}\).
Gallet ti ysgrifennu’r wybodaeth hon yn y tabl hefyd fel hyn:
\({Cymedr} = {390}\div{30} = {13}\)