Ffyrdd o ddefnyddio calchfaen
Mae calchfaenMath o graig waddod. - sy’n craig waddodolMath o graig sy’n ffurfio wrth i ddefnydd gael ei ddyddodi ar arwyneb y Ddaear. - yn adnodd gwerthfawr o gramen y Ddaear. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd.
- Mae’n cael ei ddefnyddio fel defnydd adeiladu.
- Mae’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu sment drwy wresogi powdr calchfaen gyda chlai. Mae sment yn gynhwysyn mewn morter a choncrit. Mae morter - sy’n cael ei ddefnyddio i ddal brics at ei gilydd - yn cael ei wneud drwy gymysgu sment â thywod a dŵr. Mae concrit yn cael ei wneud drwy gymysgu sment â thywod, dŵr ac agreg (sef creigiau wedi’u malu).
- Mae’n un o brif gynhwysion past dannedd.
- Mae’n gallu cael ei ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd i ddarparu ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au). calsiwm ar gyfer dannedd ac esgyrn cryf.
- Mae’n gallu cael ei brosesu fel defnydd crai defnyddiol yn y diwydiant cemegol.
- Mae’n gallu cael ei ddefnyddio i niwtraleiddio pridd asidig sy’n helpu planhigion i dyfu’n fwy effeithiol. Mae hyn yn cael ei wneud yn bennaf ar gyfer amaethyddiaeth ar raddfa fawr. Hefyd, mae modd defnyddio calch brwd a chalch tawdd i wneud hyn, ac i niwtraleiddio asidedd mewn ffynonellau dŵr fel llynnoedd.
Mae calchfaen hefyd yn cael ei ddefnyddio i gael gwared ag amhureddau o’r ffwrnais chwyth wrth wneud haearn. Y prif amhuredd yw silicon deuocsid (sef tywod), ac mae’r calsiwm carbonad yn y calchfaen yn adweithio â’r silicon deuocsid i ffurfio calsiwm silicad (sef slag).
CaCO3(s) → CaO(s) + CO2(n)
CaO(s) + SiO2(h) → CaSiO3(s)
Mae calsiwm silicad tawddRhywbeth sy’n cael ei leihau i ffurf hylif drwy wresogi. Term sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i ddisgrifio craig, gwydr neu fetel. yn llai dwys na’r haearn tawdd, felly mae’n arnofio ar ben yr haearn ac mae’n hawdd ei dynnu i ffwrdd.
Mae calchfaen yn gallu cael ei ddefnyddio i adeiladu ffyrdd. Mae modd defnyddio’r gwastraff slag o’r ffwrnais chwyth i wneud hyn hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o galchfaen yn dod o ganlyniad i chwarela, gan chwythu’r graig allan o’r ddaear mewn pyllau enfawr.
