Sefydlogrwydd carbonadau metel
Un adwaith cyffredin i unrhyw carbonadSylwedd sy’n cynnwys ïonau carbonad. Mae’r rhan fwyaf o garbonadau yn anhydawdd (megis calsiwm carbonad) ond mae sodiwm carbonad ac amoniwm carbonad yn hydawdd mewn dŵr. metel yw dadelfeniad thermol. Pan fydd carbonadau metel yn cael eu gwresogi, maen nhw’n dadelfennu i ffurfio ocsid y metel a nwy carbon deuocsid. Dyma rai enghreifftiau.
sodiwm carbonad → sodiwm ocsid + carbon deuocsid
Na2CO3(s) → Na2O(s) + CO2(n)
copr(II) carbonad → copr(II) ocsid + carbon deuocsid
CuCO3(s) → CuO(s) + CO2(n)
Mae anhawster yr adwaith dadelfennu hwn yn dibynnu ar adweithedd y metel yn y carbonad metel. Wrth edrych ar y ddwy enghraifft uchod, mae sodiwm yn fetel adweithiol iawn. Mae hyn yn golygu bod sodiwm carbonad yn sefydlog iawn a bod angen tymheredd uchel i’w ddadelfennu. Fodd bynnag, mae copr yn fetel anadweithiol iawn - dyna pam mae’n ddefnyddiol i wneud pibellau dŵr - ac felly mae copr(II) carbonad yn eithaf ansefydlog ac yn dadelfennu ar dymheredd cymharol isel.
Mae perthynas rhwng sefydlogrwydd y carbonadau metel a chyfres adweithedd y metelau. Yr uchaf yn y gyfres yw’r metel, y mwyaf adweithiol yw’r metel, ac felly y mwyaf sefydlog yw’r carbonad.
Gallwn ni fesur sefydlogrwydd y carbonadau metel drwy wresogi’r carbonad a byrlymu’r carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu drwy ddŵr calch. Y cyflymaf mae’r dŵr calch yn troi’n llaethog, yr uchaf yw cyfradd dadelfennu’r carbonad (sy’n golygu bod y carbonad yn llai sefydlog).