Y gylchred galchfaen
Calsiwm carbonad
Mae calsiwm carbonad, calsiwm ocsid a chalsiwm hydrocsid i gyd wedi’u gwneud o calchfaenMath o graig waddod. ac yn cael eu defnyddio ar gyfer pethau pwysig, felly mae’n bwysig gwybod sut maen nhw’n cael eu gwneud.
Mae calsiwm carbonad yn bodoli’n naturiol mewn calchfaen. Pan fydd calchfaen yn cael ei wresogi’n gryf, mae’r calsiwm carbonad sydd ynddo’n amsugno gwres (endothermigAdwaith sy’n cymryd egni o’r amgylchoedd.) ac mae’n dadelfennuOs yw sylwedd yn dadelfennu, mae’n torri i lawr i ffurfio cyfansoddion symlach neu elfennau. i ffurfio calsiwm ocsid. Mae’r ffaith fod y calchfaen yn goleuo’n oren wrth gael ei wresogi yn dangos hyn.
calsiwm carbonad → calsiwm ocsid + carbon deuocsid
CaCO3(s) → CaO(s) + CO2(n)
Mae calsiwm ocsid (sef calch brwd) yn gynhwysyn pwysig wrth wneud sment ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i wneud rhai mathau o blastr.
Calsiwm ocsid
Mae calsiwm ocsid yn adweithio â rhai diferion o ddŵr i ffurfio calsiwm hydrocsid, sy’n alcaliBas sy'n hydawdd mewn dŵr.. Mae hwn yn adwaith ecsothermigAdwaith sy’n rhyddhau egni i’r amgylchoedd. Yna, mae gan yr amgylchoedd fwy o egni nag oedd ganddyn nhw i ddechrau, felly mae’r tymheredd yn cynyddu.. Gallwn ni weld hyn gan fod y dŵr yn troi’n ager. Mae’r solid yn aros yn wyn ond mae’n briwsioni’n bowdr wrth i’r dŵr gael ei ychwanegu.
calsiwm ocsid + dŵr → calsiwm hydrocsid
CaO(s) + H2O(h) → Ca(OH)2(s)
Calsiwm hydrocsid
Mae calsiwm hydrocsid (sef calch tawdd) yn cael ei ddefnyddio i niwtraleiddioGwneud rhywbeth yn niwtral drwy gael gwared ar natur asidig neu alcalïaidd. asidedd gormodol, er enghraifft, mewn llynnoedd a phriddoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan glaw asidGlaw sy’n cynnwys nwyon asidig hydoddedig megis nitrogen ocsid a sylffwr deuocsid..
Mae calsiwm hydrocsid yn hydoddi mewn gormodedd o ddŵr i gynhyrchu hydoddiant calsiwm hydrocsid (dŵr calch), sy’n cael ei ddefnyddio i brofi am garbon deuocsid. Mae’r carbon deuocsid yn adweithio â’r calsiwm hydrocsid i ffurfio calsiwm carbonad gwyn, sy’n anhydawdd ac felly’n troi’r dŵr calch yn ‘llaethog’.
calsiwm hydrocsid + carbon deuocsid → calsiwm carbonad + dŵr
Ca(OH)2(dyfr) + CO2(n) → CaCO3(s) + H2O(h)
Mae’r adweithiau hyn i gyd wedi’u cysylltu â’i gilydd, ac yn ffurfio’r gylchred galchfaen.