Biodanwyddau
Gan fod tanwyddau ffosil yn anadnewyddadwy ac yn cyfrannu at cynhesu byd-eangY cynnydd yn nhymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear., mae mwy a mwy o bobl yn ystyried biodanwyddau fel dewis arall posibl i’r dyfodol.
Rydyn ni’n cynhyrchu biodanwyddau o gynhyrchion naturiol, yn aml o biomasMàs sych organeb ydy biomas. planhigol sy’n cynnwys carbohydrad. Gan fod biodanwyddau’n cael eu cynhyrchu o blanhigion, maen nhw’n adnewyddadwy ac, yn ddamcaniaethol, yn carbon niwtralTanwydd carbon niwtral ydy tanwydd lle mae’r carbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau wrth ei ddefnyddio yn cyfateb yn union i’r hyn sy’n cael ei gymryd wrth ei ffurfio..
Rydyn ni’n cynhyrchu rhai biodanwyddau drwy ddefnyddio micro-organebEnw arall ar microb. Mae’n ficrosgopig ac yn organeb, megis firws neu bacteria, neu ffwng megis burum. i eplesuProses anaerobig ydy eplesu (mae’n digwydd yn absenoldeb ocsigen). Mae eplesu gyda burum yn cynhyrchu carbon deuocsid ac ethanol. carbohydrad sydd yn y defnydd planhigol yn anaerobigHeb ocsigen. – er enghraifft, wrth gynhyrchu bioethanol a bionwy (mae’r ddwy broses yn defnyddio micro-organebau gwahanol).
Bioethanol
Wrth wneud ethanol drwy eplesu, mae siwgr yn cael ei drawsnewid yn ethanol a charbon deuocsid mewn amodau anaerobig. Mae ffyngau ungellog o’r enw burum yn cynnwys ensymau sy’n catalyddMae catalydd yn newid cyfradd adwaith cemegol heb gael ei newid ei hun gan yr adwaith. naturiol i wneud i’r broses hon ddigwydd.
Mewn rhai gwledydd, fel Brasil, mae’r siwgr yn dod o gansenni siwgr – mae burum yn gallu eplesu hwn yn uniongyrchol i ffurfio ethanol. Mewn gwledydd eraill, mae planhigion fel india-corn yn cael eu defnyddio. Mae india-corn yn cynnwys startsh yn hytrach na siwgr, felly yn gyntaf rhaid i’r ensym amylasEnsym sy’n gallu ymddatod startsh yn siwgrau syml. Mae'r ensym hwn mewn poer dynol. ddadelfennu’r startsh i ffurfio siwgr cyn mae’r burum yn gallu ei eplesu i ffurfio ethanol.
Mae’r ethanol sy’n cael ei gynhyrchu gan furum yn cyrraedd crynodiad o tua 15 y cant cyn i’r ethanol fynd yn wenwynig i’r burum. Er mwyn ei wneud yn ddigon crynodedig i gael ei losgi fel tanwydd, rhaid distylluTechneg gwahanu lle mae hydoddiant yn cael ei wresogi fel bod yr hydoddydd yn anweddu cyn cael ei oeri i ffurfio hylif pur. yr ethanol.
Anfanteision bioethanol
Mae rhai anfanteision i dyfu cnydau biodanwydd (fel cansenni siwgr ac india-corn) i’w defnyddio nhw fel bioethanol.
- Mae’r galw am gnydau biodanwydd yn golygu mwy o alw ar dir coedwigoedd glaw.
- Mae cnydau’n tyfu’n araf mewn rhannau o’r byd lle nad oes cymaint o olau a lle mae’r tymheredd yn isel, felly fyddai tyfu cnydau biodanwydd yn y gwledydd hyn ddim yn bodloni’r galw am danwydd.
- Cyn i injan car allu llosgi bioethanol, rhaid addasu’r injan. Mae injans petrol modern yn gallu defnyddio petrol sy’n cynnwys hyd at ddeg y cant o ethanol heb fod angen eu haddasu, ac mae’r rhan fwyaf o’r petrol sy’n cael ei werthu yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys ethanol.
- Er bod biodanwyddau, yn ddamcaniaethol, yn garbon niwtral, dydy hyn ddim yn ystyried yr allyriadau carbon deuocsid sy’n gysylltiedig â thyfu, cynaeafu a chludo’r cnydau, nac â chynhyrchu’r ethanol o’r rhain. Felly, ar y cyfan, mae mwy o garbon deuocsid yn cael ei allyrru nag sy’n cael ei amsugno, sy’n golygu ei fod yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.
- Mae rhai pobl yn gwrthwynebu defnyddio cnydau bwyd i gynhyrchu tanwyddau o safbwynt moesol. Er enghraifft, gallai achosi prinder bwyd neu gynnydd ym mhris bwyd.
Ffurfio asid ethanöig
Pan mae microbau’n ocsidio ethanol, mae’n ffurfio cyfansoddyn o’r enw asid ethanöig (CH3COOH), sy’n fath o asid carbocsylig. Hwn yw’r asid sydd mewn finegr.
Gallwn ni hefyd ocsidio alcoholau eraill mewn modd tebyg. Er enghraifft, gallwn ni ocsidio methanol i ffurfio asid methanöig. Yn ogystal ag ennill ocsigen yn y broses ocsidio, mae atomau hydrogen wedi cael eu rhydwytho.
Prawf am alcoholau
Mae gwresogi alcoholau’n araf gyda chymysgedd o botasiwm deucromad(VI) ac asid sylffwrig yn achosi i’r cymysgedd newid lliw o oren i wyrdd. Cafodd y prawf cemegol hwn ei ddefnyddio’n wreiddiol i brofi am bresenoldeb alcohol ar anadl pobl os oedd amheuaeth eu bod nhw’n yfed a gyrru.