Adeiledd ethanol
Mae moleciwlau ethanol yn cynnwys atomau carbon, hydrogen ac ocsigen.
Eplesu
Gallwn ni wneud ethanol mewn proses o’r enw eplesu. Yn ystod eplesu, mae siwgr (glwcos) o ddefnydd planhigol yn cael ei drawsnewid yn ethanol a charbon deuocsid. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar dymheredd o gwmpas 30°C. Yr ensymProtein sy'n catalyddu neu'n cyflymu adwaith cemegol yn y corff. mewn ffyngau ungellog (burum) yw’r catalyddMae catalydd yn newid cyfradd adwaith cemegol heb gael ei newid ei hun gan yr adwaith. naturiol sy’n gallu gwneud i’r broses hon ddigwydd:
\(C_{6}H_{12}O_{6}\xrightarrow{ensymau~mewn~burum}2C_{2}H_{5}OH + 2CO_{2}\)
Yn wahanol i ethen, mae siwgr o ddefnydd planhigol yn adnodd adnewyddadwy. Mae 90 y cant o ethanol y byd yn cael ei wneud drwy ddefnyddio eplesu.
Diodydd alcoholig
Ethanol yw’r alcohol mwyaf adnabyddus, oherwydd hwn yw’r alcohol sy’n bresennol ym mhob diod alcoholig. Mae bodau dynol wedi bod yn yfed alcohol ers miloedd o flynyddoedd, ond nawr mae yfed alcohol yn mynd yn broblem fwy nag erioed am ei fod ar gael mor rhwydd.
Dyma rai ffeithiau am ddiodydd alcoholig:
Iechyd
- Mae tua 10 y cant o glefydau a marwolaethau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hachosi’n uniongyrchol gan alcohol. Mae llawer o glefydau’n gysylltiedig yn uniongyrchol â chamddefnyddio alcohol, gan gynnwys nifer o wahanol ganserau, pwysedd gwaed uchel, sirosis yr iau ac iselder.
- Mae nifer y marwolaethau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag alcohol yn y Deyrnas Unedig yn agos at 9,000 bob blwyddyn.
- Dyma’r trydydd ffactor ffordd o fyw mwyaf peryglus, ar ôl ysmygu a gordewdra.
Economaidd
- Yr amcangyfrif yw bod camddefnyddio alcohol yn y Deyrnas Unedig yn costio dros £21 biliwn y flwyddyn oherwydd costau gofal iechyd, costau heddlu a diffyg cynhyrchedd oherwydd colli gwaith.
- Mae allforio diodydd alcoholig yn cyfrannu ychydig dros £6 biliwn at economi flynyddol y Deyrnas Unedig.
- Mae’r diwydiant diodydd yn y Deyrnas Unedig yn cyflogi tua 650,000 o bobl yn uniongyrchol, ac yn cynnal dros 1 miliwn o swyddi eraill yn yr economi ehangach.
- Mae treth ar werthu diodydd alcoholig yn rhoi tua £10 biliwn i drysorlys y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
Cymdeithasol
- Mae tua 20 y cant o bob achos o drais sy’n cael ei ddatgan i’r heddlu yn digwydd yn agos at dafarn neu glwb.
- Yr amcangyfrif o gost flynyddol troseddau cysylltiedig ag alcohol yn y Deyrnas Unedig yw tua £8bn i £13bn.
Ffyrdd o ddefnyddio ethanol
Mae yna ffyrdd eraill o ddefnyddio ethanol heblaw ei yfed:
- mae’n hydoddydd da iawn
- ethanol yw’r cynhwysyn gweithredol mewn glanweithyddion dwylo gwrthfacteria sydd ddim angen dŵr
- rydyn ni’n ei ddefnyddio fel tanwydd