Eplesyddion diwydiannol
Cynwysyddion yw eplesyddion a ddefnyddir i dyfu bacteria a ffyngau ar raddfa fawr, ee llwydni Penicillium ar gyfer cynhyrchu penisilin (gwrthfiotig).
Diagram o eplesydd
Fel rheol gwneir eplesyddion o fetel na wnaiff ddim rhydu, fel dur gwrthstaen. Mae gan rai ddigon o gynhwysedd i ddal miloedd o litrau.
Mae’r tabl yn disgrifio prif nodweddion a swyddogaethau eplesydd.
| Nodwedd | Swyddogaeth | Rheswm |
| Mewnfa ager | Ager poeth yn diheintio tu mewn yr eplesydd | Rhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau |
| Mewnfa maetholion | Caniatáu i faetholion di-haint fynd i mewn i’r eplesydd | Mae angen maetholion ar Penicillium er mwyn gallu tyfu ac atgenhedlu |
| Siaced ddŵr gyda dŵr oeri | Cadw’r tymheredd y tu mewn yn gyson | Mae Penicillium yn tyfu orau ar dymheredd optimwm o 23-28°C |
| Mewnfa aer | Darparu ffynhonnell ocsigen | Mae angen ocsigen ar Penicillium ar gyfer resbiradaeth aerobig |
| Hidlen ar y fewnfa aer | Atal micro-organebau rhag mynd i mewn i’r eplesydd | Rhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau |
| Padlau cymysgu | Cadw’r cymysgedd y tu mewn i’r eplesydd mewn cyflwr aflonydd (cymysgu) | Cymysgu’r micro-organebau gyda’r maethynnau a chadw’r tymheredd yn wastad |
| Chwiliedydd pH a falf mewnlif ar gyfer asid ac alcali | Monitro’r pH y tu mewn i’r eplesydd i sicrhau ei fod ar y lefel orau | Mae angen cadw Penicillium ar lefel pH 6.5, yr optimwm ar gyfer y ffwng |
| Nodwedd | Mewnfa ager |
|---|---|
| Swyddogaeth | Ager poeth yn diheintio tu mewn yr eplesydd |
| Rheswm | Rhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau |
| Nodwedd | Mewnfa maetholion |
|---|---|
| Swyddogaeth | Caniatáu i faetholion di-haint fynd i mewn i’r eplesydd |
| Rheswm | Mae angen maetholion ar Penicillium er mwyn gallu tyfu ac atgenhedlu |
| Nodwedd | Siaced ddŵr gyda dŵr oeri |
|---|---|
| Swyddogaeth | Cadw’r tymheredd y tu mewn yn gyson |
| Rheswm | Mae Penicillium yn tyfu orau ar dymheredd optimwm o 23-28°C |
| Nodwedd | Mewnfa aer |
|---|---|
| Swyddogaeth | Darparu ffynhonnell ocsigen |
| Rheswm | Mae angen ocsigen ar Penicillium ar gyfer resbiradaeth aerobig |
| Nodwedd | Hidlen ar y fewnfa aer |
|---|---|
| Swyddogaeth | Atal micro-organebau rhag mynd i mewn i’r eplesydd |
| Rheswm | Rhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau |
| Nodwedd | Padlau cymysgu |
|---|---|
| Swyddogaeth | Cadw’r cymysgedd y tu mewn i’r eplesydd mewn cyflwr aflonydd (cymysgu) |
| Rheswm | Cymysgu’r micro-organebau gyda’r maethynnau a chadw’r tymheredd yn wastad |
| Nodwedd | Chwiliedydd pH a falf mewnlif ar gyfer asid ac alcali |
|---|---|
| Swyddogaeth | Monitro’r pH y tu mewn i’r eplesydd i sicrhau ei fod ar y lefel orau |
| Rheswm | Mae angen cadw Penicillium ar lefel pH 6.5, yr optimwm ar gyfer y ffwng |
Unwaith y bydd y Penicillium wedi bod yn yr eplesydd am ryw 200 awr, caiff yr hylif ei dynnu allan a’i hidlo. Bydd hyn yn tynnu celloedd ffwngaidd, gan adael y cynnyrch penisilin a fydd angen triniaeth gemegol cyn ei ddefnyddio.