Gwneud pobl yn llai agored i niwed – llosgfynyddoedd byw
Mae’n anodd iawn rhagfynegi echdoriadau folcanig, ond gall gwyddonwyr fonitro llosgfynyddoedd a cheisio rhoi brasamcan pryd maen nhw’n debygol o echdorri. Mae gwyddonwyr yn defnyddio technegau amrywiol i wneud hyn, er enghraifft:
- seismomedrau – sy’n cael eu defnyddio i fesur daeargrynfeydd sy’n digwydd yn agos at echdoriad
- mesuryddion gogwydd a lloerenni systemau lleoli byd-eang (GPS) – mae’r dyfeisiau hyn yn monitro unrhyw newidiadau yn y dirwedd, ee mae llosgfynyddoedd yn tueddu i ymchwyddo yn agos at echdoriad
- delweddu thermol – mae hyn yn caniatáu i gamera fonitro ffynonellau gwres yn y gramen neu’r llosgfynydd a gallai helpu i ragfynegi echdoriad
- delweddau camera isgoch – gallai’r delweddau hyn ddangos y siambr magma ac unrhyw nwyon poeth, ager neu lafa sy’n crynhoi
- monitro nwyon sy’n dianc o losgfynydd gan ddefnyddio robotau sy’n cael eu galw’n gorynod – yn aml iawn mae mwy o sylffwr deuocsid yn cael ei ryddhau yn agos at echdoriad wrth i’r magma ddod yn nes at yr wyneb
- mesur tymheredd – mae llosgfynyddoedd yn mynd yn fwy poeth pan mae magma’n dechrau codi drwy’r prif agorfaY bibell gul, denau yng nghanol llosgfynydd sy’n cysylltu’r siambr fagma â’r crater.
- edrych ar echdoriadau blaenorol – gall gwyddonwyr weld patrymau gweithgarwch
Mapio peryglon
Mae cynllunio ardaloedd ymgilio a symud y bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o beryglon tectonig yn hanfodol er mwyn gwneud cymunedau yn llai agored i niwed. Mae mapio peryglon yn caniatáu i ardaloedd lleol gyfyngu mynediad i’r parthau perygl ac yn sicrhau nad yw adeiladau’n cael eu codi ger peryglon posibl. Mae’n bosibl creu ardaloedd dan waharddiad hefyd – ardaloedd nad oes neb yn cael mynd iddyn nhw cyn, yn ystod nac ar ôl digwyddiad.
Mae map peryglon yn helpu pobl i ddeall yn sydyn lle mae’r parthau perygl a’r ardaloedd diogel os bydd echdoriad