Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys IorwerthIaith ac arddull

Dyma gerdd gyfoes sy’n sôn am brofiad gŵr ifanc yn gweld merch atyniadol iawn mewn clwb nos, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae’n sôn am ei phryd a’i gwedd a’r effaith mae hi’n ei chael arno.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Iaith ac arddull

Mesur

Englynion milwr yw’r penillion hyn. Tair llinell sydd mewn englyn milwr a phob llinell yn saith sill o hyd. Gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Mae’n rhaid i’r tair llinell odli â’i gilydd.

Berfau cryno

gwelais

estynnais

ordrais

Mae amser gorffennol y ferf yn ein hatgoffa mai rhywbeth ddigwyddodd unwaith, dro byd yn ôl, oedd hyn.

Trosiad

cefnfor o stori

Mae dyfnder ei llygaid sydd yn fel y môr yn cuddio hanes ei bywyd ac mae’r bardd yn dychmygu fod yna lawer o bethau i’w darganfod amdani.

Ailadrodd

yn fan hyn, aeafau’n ôl

Rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol yw hyn ond mae’r argraff a gafodd y ferch arno’n dal i aros yn ei gof.

yn ddifaddau o feddwol

Mae harddwch y ferch mor amlwg ac arbennig nes iddo fod, yn eironig iawn, yn rhwystr i’r bardd yn y pen draw am nad yw’n disgwyl i ferch mor hynod ei gymryd o ddifrif.