
Cynnwys y wers hon
- Pedwar fideo ble mae awdur Llyfr Glas Nebo’n trafod y nofel a chreu cymeriadau
- Dau weithgaredd i ddatblygu sgiliau gwerthfawrogi cymeriadau
Lesson content
- Four videos in which the author of Llyfr Glas Nebo discusses the novel and its characters
- Two activities to develop character appreciation

Cymeriadau
Mae’r nofel 'Llyfr Glas Nebo' gan Manon Steffan Ros yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd a’r cymeriadau’n datblygu’n gyson wrth i’r nofel a’r stori ddatblygu.
Mae cymeriadau yn ganolog i bob darn creadigol, boed mewn stori, nofel neu ddyddiadur.
Un o nodweddion darn creadigol llwyddiannus yw gallu’r awdur i greu cymeriadau gafaelgar, credadwy, sy’n bachu’r darllenydd o’r eiliad gyntaf.
Dadansoddi cymeriadau
Pan fyddi di’n dadanosddi cymeriad, mae angen i ti sylwi a deall sut a pham mae cymeriad yn ymateb neu’n ymddwyn mewn ffordd arbennig er mwyn ymateb yn bersonol a chreadigol i’r nofel.
Mewn arholiad, yn aml bydd angen i ti adnabod y cymeriad yn dda. Bydd angen i ti drafod agweddau penodol o’i bersonoliaeth a dangos dy ddealltwriaeth di o’i ddatblygiad o fewn y nofel.
Rhaid i ti feddwl am:
- y ffordd mae’n edrych ac yn symud
- pa fath o berthynas sydd ganddo â chymeriadau eraill – beth sydd ganddo/ganddi i’w ddweud am y cymeriadau hynny?
- beth sydd gan gymeriadau eraill i’w ddweud amdano e/hi?
- beth sydd wedi digwydd iddo/iddi – yn y gorffennol ac yn y presennol, a sut mae wedi ymateb i hynny
- defnydd yr awdur o arddull a’i ddefnydd o nodweddion/disgrifiadau – a oes yna nodweddion/disgrifadau y medru di eu hefelychu yn dy ateb?

Fideo 1 / Video 1
Gwylia’r awdur Manon Steffan Ros yn trafod creu cymeriadau yn ei nofel 'Llyfr Glas Nebo'.

Cymeriadau creadadwy
Mae creu cymeriadau credadwy, hynny yw rhai mae’r darllenydd yn credu ynddyn nhw a’u bywydau, yn hanfodol i lwyddiant nofel.
Os nad yw cymeriadau’n gredadwy, yna bydd y darllenydd yn colli diddordeb ynddyn nhw.
Disgrifio cymeriad
Dyma ansoddeiriau defnyddiol i ddisgrifio cymeriad:
| Creulon | Cariadus | Dihyder | Cwynfanllyd | Balch |
| Mewnblyg | Allblyg | Cystadleuol | Tawel | Ffyddlon |
| Cydwybodol | Bywiog | Llawn hwyl | Dialgar | Annifyr |
| Unig | Hoff o gyfiawnder | Annibynnol | Caled | Sbeitlyd |
| Teimladwy | Hunan-gyfiawn | Euog | Hoffi tynnu coes | Diog |
| Busneslyd | Twyllodrus | Hunanol | Tyner | Cenfigennus |
| Hunan-ymwybodol | Egwyddorol | Naïf a dibrofiad | Cefnogol | Cryf |
| Pwysig a dylanwadol | Yn barod i ddioddef | Ofnus | Caredig | Penderfynol |
| Clyfar | Arwr | Rhywiaethol (sexist) | Pryderus | Dewr |
| Croendenau | Beirniadol | Ymarferol | Sensitif | Synnwyr digrifwch |
| Aeddfed | Anaeddfed | Twymgalon | Gonest | Anhapus |

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Gan ddefnyddio'r ansoddeiriau uchod, rhestra'r geiriau mewn tabl gan nodi pa rai yw'r:
- ansoddeiriau cadarnhaol
- ansoddeiriau negyddol
- ansoddeiriau sy'n gallu bod yn gadarnhaol neu'n negyddol

Fideo 2 / Video 2
Gwylia’r awdur Manon Steffan Ros yn trafod prif gymeriadau’r nofel 'Llyfr Glas Nebo'.

Sut i ddadansoddi cymeriadau
Cyn i ti ymateb i gwestiwn sy’n gofyn i ti ddadanosddi cymeriad, bydd angen i ti yn gyntaf ddod i adnabod y cymeriad.
Wedyn, bydd angen i ti ystyried pa dystiolaeth sydd ar gael yn y nofel i gadarnhau ac i atgyfnerthu'r sylwadau rwyt ti wedi eu gwneud ar y cymeriad.
Pan fyddi di’n dod i ystyried perthynas cymeriad penodol gyda chymeriad arall yn y llyfr, ceisia ddilyn patrwm y dwylo yma i dy helpu:

Yn y bysedd ar y llaw chwith:
- dewisia un cymeriad o'r nofel neu'r stori rwyt ti'n ei darllen
- cofnoda bump ansoddair neu nodwedd i ddisgrifio personoliaeth y cymeriad
- o dan y llaw, ysgrifenna ddyfyniad o'r nofel sy'n dystiolaeth o hyn
Ar y llaw dde:
- gosoda rhwng dau a phump enw cymeriad arall o'r nofel yn y bysedd
- o dan y llaw, ysgrifennau ddyfyniad gan y cymeriadau sy'n darlunio/dweud rhywbeth am y cymeriad rwyt ti wedi ei nodi yn y llaw chwith
Nawr mae gen ti sgerbwd ateb er mwyn ymateb i gwestiwn am ddadansoddi cymeriad.

Fideo 3 / Video 3
Gwylia awdur 'Llyfr Glas Nebo', Manon Steffan Ros, yn trafod llinell amser ei nofel.

Fideo 4 / Video 4
Yn y fideo yma, mae’r awdur, Manon Steffan Ros yn trafod un o brif gymeriadau’r nofel, Siôn.
Weithia dwi’n meddwl ei bod hi’n amhosib i rywun fod mor dlws ac mor hyll â Mam.
Dwi’n gwybod bod hynna’n beth creulon i’w ddeud. Mae Mam yn casáu pan mae pobol yn cael eu galw’n hyll, hyd yn oed mewn straeon, a dwi’n methu dallt hynny. Cyn belled â bod y bobol ddim yn clywed, be ydi’r ots? Ond mae Mam yn deud mai dim ond pobol sy’n hyll ar y tu mewn sy’n gweld pobol eraill yn hyll ar y tu allan. Felly mae’n siŵr ‘mod i’n reit afiach y tu mewn i mi, achos dwi’n gweld Mam yn wirioneddol hyll weithia.
Tudalen 11, Llyfr Glas Nebo, gan Manon Steffan Ros, cyhoeddwyd gan Y Lolfa Cyf.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Nawr dy fod wedi ymgyfarwyddo gyda chymeriadau’r nofel, cer ati i ysgrifennu dyddiadur neu ymson ar gyfer rhan benodol o’r nofel.
Os nad wyt ti’n siŵr sut i ysgrifennu dyddiadur, cer i'r wers Ysgrifennu Dyddiadur neu'r wers Dyddiadur person cyntaf
Os nad wyt ti’n siŵr sut i ysgrifennu ymson cer i'r wers Cynllunio ymson

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- deall pwysigrwydd cymeriadau mewn nofel neu stori
- dadansoddi cymeriad o’r nofel Llyfr Glas Nebo
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand the importance of characters in novels and stories
- analyse a character from the novel Llyfr Glas Nebo

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
