
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad ar nodweddion dyddiadur
- Dau fideo gan athrawes Gymraeg yn son am nodweddion, iaith ac arddull dyddiadur
- Tri gweithgaredd i ddysgu mwy am nodweddion dyddiadur
Lesson content
- One introduction to the characteristics of a diary
- Two videos by a Welsh teacher explaining the characteristics, language and style of a diary
- Three activities to learn more about the characteristics of a diary

Cyflwyniad
Mae dyddiadur yn bersonol iawn, a’i bwrpas yw nodi digwyddiadau sydd wedi digwydd. Hefyd, mae modd i ti nodi dy deimladau neu dy farn am rywbeth.
Dylid ysgrifennu dyddiadur mewn trefn gronolegol, hynny yw bore yn gyntaf, wedyn y prynhawn, ac yna y nos.

Fideo 1 / Video 1
Gwylia athrawes Gymraeg yn siarad am nodweddion dyddiadur.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw nodweddion dyddiadur
- deall bod modd defnyddio gwahanol amseroedd y ferf mewn dyddiadur, ond mai amser gorffennol y ferf sy'n cael ei ddefnyddio gan amlaf wrth ysgrifennu dyddiadur
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand what the characteristics of a diary are
- understand that different tenses can be used when writing a diary, but that the past tense of the verb is generally the most common form when writing a diary

Dyma enghraifft o bwt o ddyddiadur.
Dydd Gwener, 10fed o Ebrill
Annwyl ddyddiadur,
Roedd heddiw’n ddiwrnod arbennig i mi. ‘Dw i wedi symud tŷ. Aethon ni mewn hen lori enfawr i’r tŷ newydd bore ‘ma. Roeddwn i’n gyffrous iawn wrth weld ein cartref newydd yn dod i’r golwg ar ben y tyle serth!
Mae’r tŷ newydd yn wych achos mae ‘na ddigon o le i ni i gyd – Mam, Dad, Elen a fi. Ces i ddewis fy ‘stafell wely newydd i hefyd, ac wrth gwrs dewisais ‘stafell ffantasig! Pam fod y ‘stafell yma mor ffantastig? Wel, mae ganddi olygfa o’r ardd ac mae hi’n fwy o faint nag un Elen o lawer… ha ha! Roedd Elen yn genfigennus ohonof i ond nid fy mai i yw hi fy mod i’n 14 mlwydd oedd a dim ond 10 ydi hi. Nid yw Elen yn ddigon aeddfed i wneud unrhyw benderfyniadau mawr, felly does dim rhyfedd bod Mam a Dad wedi rhoi’r dewis anodd a phwysig yma i mi. Pan fydd Elen yn 14 mlwydd oed, mi fydd hi’n deall beth yw cyfrifoldeb!
Bydd hi’n anghofio am fod mor grac cyn bo’ hir, rwy’n siwr. Nid yw Elen fel arfer yn dal dig am hir, a ‘ta beth, mae gennym ni gymaint i’w wneud dros y dyddiau nesaf… bocsys di ri i’w dadbacio, ystafelloedd newydd i’w haddurno, chwarae gemau yn yr ardd fawr, chwarae triciau ar Dad… Waw, ‘dw i methu aros!

Fideo 2 / Video 2
Gwylia’r fideo canlynol ar iaith ac arddull dyddiadur.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall bod modd defnyddio iaith lafar mewn dyddiadur wrth gofnodi teimladau personol a digwyddiadau
- deall mai amser gorffennol y ferf yw'r ffurf fwyaf cyffredin mewn dyddiadur
- deall bod angen defnyddio person cyntaf unigol y ferf mewn dyddiadur
- deall bod angen defnyddio iaith ddiddorol wrth ysgrifennu dyddiadur a bod amrywiaeth o dechnegau y gellir eu defnyddio i wneud hyn
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand that it is acceptable to use everyday, informal language in a diary when noting personal feelings and events
- understand that the past tense of the verb is the most common tense in a diary
- understand that the first person singular form is required in a diary
- understand that interesting language should be used in a diary and that there are a number of techniques that can be used to achieve this

Ysgrifennu naturiol
Mae dyddiadur yn cael ei ysgrifennu ar ein cyfer ni ein hunain, ac felly mae gennym ni ryddid i fod mor naturiol ac anffurfiol ag y mynnwn ni.
Pan wyt ti’n ysgrifennu dy ddydiadur di, galli di ddefnyddio dy iaith bob dydd a dy dafodiaith i fynegi dy hun, gan gynnwys rhai geiriau na fyddet yn eu defnyddio mewn darnau o ysgrifen ffurfiol, ee ‘dw i methu aros!, tyle; ‘stafell.
Yn ogystal ag ysgrifennu’n naturiol, mae dyddiadur yn cynnwys y nodweddion canlynol fel arfer:
- defnyddio person cyntaf y ferf i nodi teimladau, meddyliau a digwyddiadau personol, ee Dw i wedi symud tŷ
- defnyddio amser gorffennol y ferf wrth sôn am ddigwyddiadau, ee Roedd heddiw yn ddiwrnod arbennig
- iaith ddiddorol, ee ansoddeiriau, cwestiynau rhethregol, ebychiadau, cymariaethau, disgrifiadau llawn a bywiog, ee Waw, ‘dw i methu aros!
- hiwmor, ee Pan fydd Elen yn 14 mlwydd oed, mi fydd hi’n deall beth yw cyfrifoldeb!
Amser y ferf
Mae modd defnyddio cyfuniad o amser y ferf wrth ysgrifennu dyddiadur, ond cofia mai sôn am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd i ni yr ydym yn gwneud, ac nid sôn am yr hyn sydd yn digwydd i ni ar y pryd, ee ‘Cefais frecwast bore ‘ma’, nid ‘Rwy’n bwyta fy mrecwast nawr.’
Dyma esboniad o amseroedd gwahanol y ferf a phryd y byddi di’n eu defnyddio:
Y gorffennol
Defnyddia’r amser hwn wrth sôn am beth sydd wedi digwydd. Byddi di’n defnyddio’r gorffennol trwy gydol dy ddyddiadur, ee Es i â’r ci mas am dro ar ôl bwyd; edrychodd Mam yn syn arna’ i!
Y presennol
Mae’r amser yma yn cael ei ddefnyddio wrth i ti sôn am dy deimladau wrth ysgrifennu’r dyddiadur, ee dw i’n hapus/drist; rwy’n teimlo’n euog am fwyta siocled fy mrawd ddoe.
Y dyfodol
Os wyt ti’n siarad am dy ddymuniadau ar gyfer y dyfodol, defnyddia’r amser yma, ee Gobeithiaf weld Nain a Taid wsnos nesa; bydda’ i’n edrych mlan at gal tecst oddi wrth Macs yn y bore.
Iaith ddiddorol
Mae ysgrifennu gan ddefnyddio iaith ddiddorol hefyd yn bwysig.
Mae hyn yn gwneud y darllen llawer iawn mwy diddorol pan fyddi’n ei ddarllen ymhen wythnos, mis, blwyddyn neu ddegawd hyd yn oed.
Cofia ddefnyddio:
- Ansoddeiriau (geiriau sy’n disgrifio), ee blodeuog, lliwgar, anhygoel, difrifol.
- Cymariaethau (cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall i ddangos pa mor debyg neu wahanol ydynt), ee mor ddu â’r nos; yn ddychrynllyd fel mellt a tharannau.
- Adferfau (gair sy’n disgrifio berf neu ansoddair), ee yn sydyn, yn fusneslyd.
- Idiomau (ymadroddion neu ddywediadau a ddefnyddiwn mewn iaith bob dydd), ee roeddwn i ar ben fy nigon; ceisiais fy ngorau glas.
- Tafodiaith (math o iaith a ddefnyddir mewn man penodol), ee rwan; tyle; losin; ‘dacw.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena’r darn isod o ddyddiadur plentyn ifanc, a noda’r berfau sy’n cael eu defnyddio.
Rhanna’r berfau fel y canlynol:
- berf yn y gorffennol
- berf yn y presennol
- berf yn y dyfodol
Dydd Llun, Rhagfyr 26
Helo ddyddiadur,
Mae’r Nadolig drosodd am flwyddyn arall. Teimlais yn gyffrous ofnadw drwy’r nos, a chodais cyn Mam a Dad, a chyn y wawr! Cripiais i lawr y grisiau yn araf cyn imi agor drws y ‘stafell fyw a chau fy llygaid wrth gerdded i mewn. Pan welais y goeden roeddwn mewn sioc… Cefais fynydd o anrhegion gan Siôn Corn! Roedd môr o bapur lapio’n llanw llawr y ‘stafell erbyn imi orffen agor fy anrhegion. Agorais bob un yn ofalus, gan geisio dyfalu’r cynnwys. Roedd Siôn Corn wedi gwneud gwaith arbennig, chwarae teg iddo.
‘Dwi mor, mor lwcus i gael yr holl anrhegion yma! Fy ffefryn yw car electrig a heol sy’n troelli fel neidr ar hyd y llawr. Rwy’n gobeithio bydda i’n cael chwarae trwy’r dydd bob dydd!

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dyma ran o ddyddiadur Anne Frank, merch Iddewig a ddaeth yn enwog ar ôl ei marwolaeth pan gyhoeddwyd ei dyddiadur a gofnodai ei phrofiadau o guddio tra'r oedd yr Almaen wedi meddiannu'r Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Hydref 20fed, 1942:Mae fy nwylo’n crynu fel dail o hyd. Anghofiodd staff gwirion y swyddfa i’n rhybuddio ni bod y saer, neu beth bynnag yw ei enw, yn dod i ymweld â’r adeilad i wirio’r diffoddwr tân heddi. Ar ôl iddo weithio am 15 munud, gosododd ei offer yn dawel ar ein cwpwrdd llyfrau a churodd ar ein drws! Aeth ein wynebau ni i gyd yn wyn fel eira. Roedd yr ofn wedi ein rhewi. A glywodd ef ryw sŵn o’n hystafell ni? Bron imi lewygu… ofnais y byddai’r sefyllfa’n mynd o ddrwg i waeth yn sydyn iawn, ac y byddai’r dieithryn brawychus yma’n darganfod ein cuddfan arbennig.
Noda’r iaith ddiddorol sy’n cael ei defnyddio yn y darn uchod

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ysgrifenna baragraff agoriadol dyddiadur yn adrodd hanes dy ddiwrnod. Rhaid i ti geisio dal sylw’r darllenydd yn syth drwy:
- nodi digwyddiad
- nodi sut wyt ti’n teimlo
- nodi dy obeithion ar gyfer y dyfodol
- cynnwys nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, ailadrodd, cymariaethau

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
