Cynllunio ymson

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo yn cyflwyno ymson
  • Un gweithgaredd i ymgyfarwyddo gydag ymson
  • Un gweithgaredd i ymgyfarwyddo gyda nodweddion arddull ymson
  • Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu ymson

Lesson content

  • One video explaining what a soliloquy/monologue is
  • One activity to familiarise you with the tone and style of a soliloquy/monologue
  • One activity to familiarise you with the writing style and language used in a soliloquy/​monologue
  • One activity to practise writing a soliloquy/monologue
Llinell / Line

Fideo / Video

Llinell / Line

Meini prawf ymson

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Dyfala ymsonau pwy yw’r rhain

Ymson 1

Tybed ym mha wlad fyddwn ni nos yfory yn perfformio i don o gefnogwyr swnllyd, chwyslyd? Ers i ni ennill yr X Factor yn 2011, dwi wedi mwynhau'r profiad o deithio i bedwar ban byd ond weithiau, byddai’n braf cael bywyd cyffredin unwaith eto – cerdded y stryd heb haen o golur a’r paparatsi bondigrybwyll yn fy anwybyddu’n llwyr.

Ymson 2

Môr o goch yn fy amgylchynu a’r stadiwm dan ei sang. Mae fy nghoesau fel jeli ac mae’r chwys yn llifo lawr fy wyneb fel afon fyrlymus. Clywaf fonllefau’r dorf. Bydd y gic nesaf yn dyngedfennol. Cic bwysicaf fy ngyrfa. Rhaid i mi lwyddo ac ennill balchder y tîm trwy sicrhau bod y bêl yn treiddio trwy’r pyst er mwyn i ni gipio’r Gamp Lawn. Mae’r pilipala yn fy stumog yn troelli.

Ymson 3

Hola! Mae angen i mi gofio prynu ‘jel’ heddiw er mwyn gosod fy ngwallt i fyny yn y ‘man bun’ enwog! Chwysaf ym mhoethder Madrid a dwi’n hiraethu am fy nheulu yng Nghymru. Mae Giggs wedi rhoi cymaint o bwysau ar fy ysgwyddau ond rwy’n barod am yr her a’r sialens. Bydd y ddraig ar fy nghalon yn fy atgoffa i’n gyson o fy ngwreiddiau yng Nghymru fach ac am ein llwyddiant ysgubol yn yr Euros. Iawn, rownd o golff amdani heddiw rwy’n credu!

Ymson 4

Bydda i byth yn diflasu ar weld lluniau fy mhriodas yn y cylchgronau lliwgar - roedd e’n ddiwrnod perffaith! “Rhowch lonydd i mi blant!” Pwy fysai’n meddwl bod magu tri o blant mor anodd! Maen nhw’n ddrygionus ac yn gwrthod rhannu eu teganau drud ond ta waeth, dwi ar fy ffordd i agoriad sioe heno ac mi fydd fflachiadau’r camera arna i ac ar y gemwaith yn fy nghoron a fydd yn disgleirio fel sêr y nos. Byddaf ar flaen tudalen pob papur newydd yfory.

Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 1 - Cynllunio ymson

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Darllena’r enghraifft o ‘Ymson Pennaeth’ isod.

Ymson Pennaeth

Mis Medi arall! Dyma fendigedig! Dw i wrth fy modd cael bod yn ôl yn fy swyddfa bwysig, glyd am chwech o’r gloch y bore!

Do, ges i a fy nheulu wyliau arbennig yn haul braf de Ffrainc ond does dim yn well na chael dod yn ôl i gyfarch mil o ddisgyblion brwdfrydig, gweithgar yn Ysgol Gyfun Pantglas.

Edrychaf allan dros y caeau gwyrdd sydd fel cyrtiau tennis Wimbledon, ac aroglaf y gwair ffres sydd newydd ei dorri. Mae llifoleuadau'r cwrt ‘astro’ yn nodwyddau tal, llachar sy’n disgleirio yn yr haul gloyw, a does dim un cwmwl yn yr awyr las uwchben.

Aroglaf y coffi cryf a ddaw drwy’r drws o ‘stafell Mrs Jones, fy ysgrifenyddes garedig.

Llusga ceir yr athrawon i’r maes parcio fel malwod ar siwrne ddiflas – rhai gwyrdd, arian, coch, du, melyn, fel lliwiau’r enfys.

Daw pob un allan o’u ceir mor iach â chneuen ar ôl ymlacio ar y traethau. Mae’n siŵr y gallan nhw flasu halen y môr ar eu crwyn o hyd. Ond, dw i’n sicr na fydd hynny yn para am yn hir. Blasu ac arogleuo hylifau glanhau’r glanhawyr ffyddlon fyddan nhw ar ôl awr yn y lle yma.

Llifa’r morgrug o ddisgyblion trwy’r gatiau cadarn gan gyfarch ei gilydd yn hapus. Clywaf ambell wich fel llygoden, neu ruo fel llew, yn atseinio ar draws yr iard. Mae eu crysau polo lliw gwin yn fy atgoffa o’r nosweithiau braf ar fy ngwyliau. Mae mor hyfryd gwybod nad fi yn unig sy’n teimlo mor gyffrous ar gychwyn blwyddyn ysgol newydd.

Iawn te, gorffen fy nghoffi, brwsio fy ngwallt, rhoi fy nhei yn syth, gwisgo fy siaced ac i lawr â fi i groesawu fy mhlantos bendigedig yng ngwasanaeth cyntaf y flwyddyn. Sgwn i ba heriau a ddaw i’n wynebu ni i gyd eleni?

Nawr, chwilia am y nodweddion arddull, gan nodi enghraifft o bob nodwedd rwyt ti'n dod o hyd iddi mewn tabl. Mae'r enghraifft gyntaf wedi ei gwneud yn barod i ti.

Cofia, efallai bydd mwy nag un nodwedd, felly noda’r un gyntaf rwyt ti'n dod ar ei thraws.

Enw’r nodweddEnghraifft o'r ymson
Cwestiwn rhethregolSgwn i ba heriau a ddaw i’n wynebu ni i gyd eleni?
Iaith lafar
Ebychnod
Cyfeirio at synhwyrau
Brawddeg hir
Teimladau/emosiwn
Amser presennol y ferf
Digwyddiad o’r gorffennol
Edrych ymlaen at y presennol
Ansoddair
Cymhariaeth/cyffelybiaeth
Trosiad
Llinell / Line

Defnyddio amser presennol y ferf

Does dim rhaid defnyddio ‘Rydw i…’ bob tro rwyt ti'n ysgrifennu ymson.

Er mwyn amrywio dy ysgrifennu, defnyddia ferfau yn yr amser presennol gan ddefnyddio'r ffurf gryno.

Mae ffurf gryno'r person cyntaf unigol yn yr amser presennol yn gorffen gydag –af, ee:

  • Rydw i’n teimlo… > Teimlaf… / Teimlaf i

Cofia! Rhaid treiglo gwrthrych yn feddal ar ôl ffurf gryno'r ferf, ee:

  • Gwelaf __dd__eilen yn cwympo oddi ar y goeden.
  • Gwisgaf __b__âr o esgidiau newydd…
Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Cwblha’r ymarfer canlynol trwy newid pob brawddeg i ffurf gryno amser presennol y ferf. Mae'r frawddeg gyntaf wedi ei gwneud i ti yn barod.

  1. Rydw i’n cerdded – Cerddaf i
  2. Rydw i’n yfed
  3. Rydw i’n gwylio
  4. Rydw i’n sylwi
  5. Rydw i’n cysuro
  6. Rydw i’n chwerthin
  7. Rydw i’n chwilio
  8. Rydw i’n siarad
  9. Rydw i’n dawnsio
  10. Rydw i’n crynu
  11. Rydw i’n crïo
  12. Rydw i’n gwenu
  13. Rydw i’n poeni
  14. Rydw i’n cytuno

Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 3 - Cynllunio ymson

Llinell / Line

Gweithgaredd 4 / Activity 4

Ysgrifenna baragraff agoriadol ymson person enwog cyn ei fod/bod ar fin cyflawni rhywbeth cyffrous. ee:

  • ymson canwr/cantores wrth iddo/iddi sefyll ar ochr y llwyfan
  • ymson actor/actores cyn iddo/iddi gael clyweliad mewn ffilm
  • ymson athletwr/athletwriag cyn iddo/iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth yn y Gemau Olympaidd

Cofia bod angen:

  • defnyddio berfau yn yr amser presennol
  • defnyddio'r ffurf gryno
  • disgrifio dy deimladau a defnyddio dy synhwyrau
  • holi cwestiynau i ti dy hun
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • adnabod beth yw ymson
  • ysgrifennu ymson gan gofio defnyddio berfau’r presennol

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • recognise a monologue/soliloquy
  • write a monologue/soliloquy using present tense verbs

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU