
Cynnwys y wers hon
- Cyflwyniad i ysgrifennu dyddiadur yn y person cyntaf
- Un fideo yn rhannu syniadau ar sut i wella dy arddull ysgrifennu
- Un gweithgaredd sy’n cadarnhau sut mae iaith ac arddull yn dy helpu i greu darlun cyflawn o berson a sefyllfa
- Un fideo o hanes bywyd Mari Jones a gweithgaredd wedi ei seilio ar y fideo
Lesson content
- Introduction to writing a diary in the first person
- One video sharing ideas on how to improve your writing style
- One activity that reinforces how language and style help you build a complete picture of person and situation
- One video about Mari Jones followed by an activity based on the video

Beth yw dyddiadur?
Dyddiadur yw meddyliau person wedi eu hysgrifennu ar bapur. Gall fod yn feddyliau cymeriad mewn stori neu’n ddyddiadur personol.
Iaith ac arddull
- Defnyddio’r person cyntaf, 'fi', yn bennaf.
- Gellir defnyddio amser presennol, gorffennol a dyfodol y ferf, ee:
- rydw i’n mynd
- es i
- byddaf i’n
- Iaith anffurfiol.
- Ansoddeiriau a chymariaethau i ddisgrifio.
- Defnyddio ebychnodau i ddangos syndod neu bwysleisio ffaith.

Fideo / Video
Gwylia’r fideo gan athro’n cyflwyno syniadau ar sut i ysgrifennu dyddiadur yn y person cyntaf.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Dyddiadur pwy?
Darllena'r ddau ddarn isod sy'n dod o ddau ddyddiadur gwahanol. Wedyn penderfyna ar ba lun isod sy’n perthyn i ba ddyddiadur?
Dyddiadur 1
Annwyl ddyddiadur,
Am ddiwrnod gwych! Codais i ben bore ar bigau’r drain! Dim ond unwaith y flwyddyn dwi’n cael fy mhen-blwydd felly doeddwn i ddim eisiau gwastraffu eiliad. Ar ôl fy hoff frecwast yn y byd i gyd, sef crempog a maple syrup, es i, Dan a Gelert i’r ffair! Bwyton ni lwyth o fwyd rwtsh a mynd ar sawl reid ofnus iawn. Waaaaa! Hyd yma, mae bod yn 14 yn ffantastig!
Dyddiadur 2
Annwyl ddyddiadur,
Am ddiwrnod ofnadwy! Dw i’n fethiant llwyr! Fe wnes i herio Kasia i rasio fyny’r Wyddfa! Ro’n i’n siŵr y bydden i’n ennill yn hawdd. Es i i’r parc yn gynnar er mwyn cynhesu’r corff ond roedd Kasia yna’n barod! Helpodd yr holl gynhesu, mae’n siŵr, achos enillodd hi'r ras yn hawdd; gwibiodd heibio fi fel ceffyl yn y Grand National! Dw i’n wyllt gacwn!


Gweithgaredd 2 / Activity 2
Gwylia’r fideo isod o hanes Mari Jones o’r Bala gan gwmni Mewn Cymeriad.
Rho dy hun yn esgidiau Mari ac ysgrifenna ddyddiadur yn y person cyntaf am un o’r swyddi a wnaeth Mari Jones er mwyn arbed arian i brynu Beibl.
Cofia fod angen:
- defnyddio’r person cyntaf, ee 'rydw i', 'cerddais i', 'byddaf i’n'
- defnyddio amser gorffennol a phresennol y ferf, ee 'roeddwn i wedi blino’n lân', 'dw i'n falch iawn'
- ysgrifennu am ddigwyddiadau diddorol a chyffrous
- cyfleu dy deimladau
- defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau i ddisgrifio
- trefnu'r paragraffau yn glir
Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- ysgrifennu dyddiadur yn y person cyntaf gan ddefnyddio iaith ac arddull sy’n gweddu i’r person
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- write a diary in the first person using a language and style that suits the person

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
