Episode details

Available for over a year
Gyda sêl bendith y teulu, flwyddyn ers colli Geraint mae Radio Cymru yn cyhoeddi cynllun 'Sesiynau Jarman' i gofio amdano ac i barhau â’r gwaith o gefnogi artistiaid a cherddoriaeth newydd oedd mor bwysig iddo. Bydd artistiaid yn cael eu comisiynu i fynd i'r stiwdio a recordio dwy gân - un gân wreiddiol ac un 'gyfyr' o waith Jarman. Drwy’r cyfyrs byddwn yn cofio Jarman y cerddor, a thrwy’r caneuon gwreiddiol byddwn yn cofio Jarman y cynhyrchydd, fel un a oedd yn hyrwyddo cerddoriaeth newydd ac yn cefnogi artistiaid ifanc drwy ei waith.
Programme Website