Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Addasu nofel ei daid

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Peredur Glyn sydd yn sôn am addasu a diwygio nofel ei daid ar gyfer darllenwyr 2026. I ddathlu canmlwyddiant ers geni'r bardd a'r llenor T Glynne Davies mae ei ŵyr, Peredur Glyn, wedi golygu argraffiad newydd o'i nofel boblogaidd. Mae'r nofel 'Marged' wedi bod allan o brint ers ei chyhoeddi yn 1974 a bydd hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ddigidol am y tro cyntaf. Cafodd y nofelydd a'r darlledwr T Glynne Davies ei eni ar 12 Ionawr, 1926. "Wrth ei bod hi'n ganmlwyddiant genedigaeth fy nhaid eleni, roedd y teulu yn teimlo y bydda'n gyfle gwych i ni drio cael Marged mewn print eto am y tro cyntaf ers dros hanner canrif," meddai Peredur. Enillodd Peredur Glyn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 am ei nofel 'Anfarwol'.

Programme Website
More episodes