Episode details

Available for over a year
Mae nifer y bobl sydd wedi cael cymorth gan elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ôl Wynford Ellis Owen, cwnselydd ym maes dibyniaeth, mae'r ffigyrau'n "gwbl frawychus, ond ddim yn syndod". Yn y cyfamser mae dynes a roddodd y gorau i yfed 10 mlynedd yn ôl yn dweud mai dyna ei phenderfyniad gorau erioed, a'i bod hi'n hynod o falch o deimlo eto yr "hapusrwydd 'na pan o'n i'n hogan fach". Mae Gwenllian Jones Palmer yn wreiddiol o Ynys Môn, ond bellach yn byw yn Sydney, Awstralia. Wrth siarad ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg, dywedodd bod y diwylliant yfed o'i chwmpas yn ei dyddiau cynnar yn y wlad yn drwm.
Programme Website