Episode details

Available for over a year
Y cyflwynydd a’r canwr Owain Williams sy’n sgwrsio gyda Mari Grug am ei atgofion cyntaf: y fferm ‘bougie’ lle cafodd ei fagu yn Nhalacharn; Rudolph yn gadael dail ar stepen y drws un Nadolig; gorfod mynd i’r ysbyty ar ôl cael ei fysedd yn sownd mewn tun o fadarch; bod wrth ei fodd gyda ffa pob a selsig; ymweliad annisgwyl gan Alex Jones a’r criw camera a rhyddhau ei ‘bop’ cyntaf fel rhan o ‘Seren Ni’ ar S4C; ei swydd gyntaf yng Nghaffi Pantri Blakemans; ei berfformiad cyntaf yn wyth oed fel y maer yn Y Pibydd Brith; yr argraff fawr a gafodd y ‘Spice Girls’ arno yn wyth oed; a chael ei annog gan ei bennaeth adran gyfraith yn y brifysgol i barhau i berfformio. Hefyd, trafod ei daith byd fel rhan o gast ‘Les Misérables’. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Fore Cothi, BBC Radio Cymru, fis Hydref 2025.
Programme Website