Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,01 Jul 2025,33 mins

SeriesY Podlediad Garddio

Ffion Emyr

Lleisiau Cymru

Available for over a year

Ffion Emyr sy’n ymuno â Meinir i drafod ei gardd fodern yng nghanol tref Caernarfon. Yn brosiect ddaru Ffion ymgymryd yn ystod 2020 tra oedd Ffion a’i phartner adref, pa ffordd well i wario’r cyfnod clo nac i weithio ar yr ardd? Elfen bwysig oedd datblygu mannau er mwyn adlonni ffrindiau a theulu ac i gael rhywle addas (a gwahanol) i fwyta brecwast, cinio a swper yn yr ardd. Mae’r ardd hyd yn oed wedi ennill gwobr yr ardd orau yng Nghaernarfon. Gan fod Ffion yn disgwyl babi a’r nythu wedi cicio i mewn go iawn - mae hi hyd yn oed wedi bod yn dystio’r sied a hwfro’r glaswellt (oes, mae ganddi laswellt ffug ac os oes unrhyw un yn cael maddeuant am hynny, Ffion ydi’r un!). Oes lle iddi addasu’r ardd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yr ardal yn fwy ‘child friendly’ ac wrth feddwl am y dyfodol, ydi Ffion am fentro i dyfu fwy o’i chynnyrch ei hun? Fe fyddwn ni hefyd yn clywed gan Siôn sy’n trafod prosiect GwyrddNi sy’n fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’r prosiect yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau garddio cymunedol ac wedi helpu sefydlu rhandiroedd yn ardal Dyffryn Nantlle. Lowri sy’n sgwrsio am droi ei hoffter o dyfu blodau mewn i fusnes. Wrth ddod mewn i’w hail dymor tyfu eleni mae Lowri yn trafod dod yn fwy ymwybodol o gost prynu blodau sydd wedi eu mewnforio.

Programme Website
More episodes