Episode details

Available for over a year
Ian Keith Jones, sydd newydd ymddeol yw gwestai Beti George. Fe adawodd byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd wobr Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post. Gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur a gwobr werdd y World Wildlife Fund. Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n hoff iawn o gasglu planhigion ac yn teithio pellteroedd i weld adar a gwyfynod prin.
Programme Website