Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,27 May 2025,47 mins

SeriesMeddwl yn Wahanol gyda Bethan Richards

Rhys Miles Thomas

Lleisiau Cymru

Available for over a year

Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun. Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang. Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol. Gyda sawl blwyddyn heb symptomau, fe gynyddodd her y cyflwr gan gyfyngu ar ei allu i wneud tasgau y byddai wedi eu gwneud heb drafferth ychydig flynyddoedd ynghynt. Daw pwysigrwydd cefnogaeth deuluol i'r amlwg, ond hefyd y rhwystredigaethau a ddaw yn ei sgil. Mae stori Rhys yn onest, yn feirniadol ar adegau ac yn amrwd. Gyda hyn, cawn obaith, gweledigaeth glir a deheuad am fyd cynhwysol a chyfartal i'r gymuned anabl. Hyn oll, wrth i'r byd 'Feddwl Yn Wahanol' am anabledd.

Programme Website
More episodes