Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,6 mins

'Dim ond awr o normalrwydd y dydd sydd gen i yn sgil Covid hir'

Bwrw Golwg

Available for over a year

Mae gweinidog wnaeth orfod symud tŷ oherwydd effeithiau Covid hir wedi dweud mai dim ond awr o normalrwydd y dydd sydd ganddo yn sgil y cyflwr. Gan nad oedd yn gallu cerdded yr allt serth i'w gartref ym mhentref Parc ger Y Bala, mae'r Parchedig Hywel Edwards a'i wraig wedi gorfod symud. Mae'n un o'r 83,000 o bobl yng Nghymru sy'n cael trafferthion gydag effeithiau Covid hir, ac yn rhan o grŵp sy'n helpu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i lunio gwasanaethau i bobl sy'n byw â'r cyflwr. Ar drothwy diwrnod i fyfyrio ar Covid-19 yn y DU, dywedodd y gweinidog wrth Bwrw Golwg bod y cyflwr wedi ei newid fel person. "Dydw i ddim yr un person ag yr o'n i bum mlynedd yn ôl. Ro'n i'n berson eitha' ffit ac wedyn mi ddoth yr aflwydd Covid ddiwedd Mawrth 2020," meddai.

Programme Website
More episodes