Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,6 mins

'Mor bwysig siarad,' medd ffermwraig o Dregaron a gollodd ei thad

Bwrw Golwg

Available for over a year

Roedd y dydd Llun cyntaf o Fedi 2020 yn ddiwrnod arferol ar fferm Pontargamddwr ger Tregaron - Rhodri y tad adref yn ffermio, Siân y fam wedi mynd i'r gwaith a'r efeilliaid Mali a Gwawr yn dechrau ar eu cyfnod yn y chweched. Ond dyma ddiwrnod a newidiodd fywyd y merched a'u mam. Ar ôl dod adref o'r ysgol fe ddaeth y merched o hyd i'w tad wedi marw drwy hunanladdiad. Ar wythnos y Sioe Fawr dywed Mali ei bod hi mor bwysig i siarad a rhannu pryderon ac er bod elusennau yn annog sgyrsiau o'r fath dywed ei bod hi'n dal yn anodd i nifer - ffermwyr yn enwedig - i siarad am eu pryderon. Mae modd cael cymorth drwy gysylltu ag elusen Tir Dewi, neu elusen Sefydliad DPJ ac mae cymorth ar gael hefyd ar wefan BBC Action Line.

Programme Website
More episodes