Episode details

Available for over a year
“#Penpych #Rhondda” Dwi’n deall pam bo rhai yn stopio’r ochr arall i arosfan Hen Dre'r Mynydd ac Ystradffernol ar fynydd y Rhigos, I fwynhau y Bannau o bell i ffwrdd, A chanu clôd bob copa Cyn dyfalu cammau fit-bit Pen-y-Fan. Er so nhw’n ishte manyn am y vista yn unig Ond am bo'r fan hufen iâ yn cynnig dishgled wrth i nhw ddishgwl a sipian yn eu Subarus, ar ddwrnod clîr, bob hanner awr, i glywed y Zip Wifrwyr yn sgrechian dros Llyn Fawr. Ond ger amddiffynfa mynyddog Craig y Llyn mae cefn cyhyrog bryniau’n gaer o greithiau du a chwymp gochfelyn sydyn o Benpych, y cwymp lle godwyd ei henw, wrth i gadfrigog Rhufeinig wthio Ŷch y werin dros ei hochrau, dagrau gwyn yn disgyn lawr ei bochau, Bellach Nant yr Ychen sy’n yma i’n hatgoffa. Nant Berw Wion sy’n llawcio’r llif yn ei anterth I uno nant Nant Selsig â Nant y Gwair yn nghesail Blaencwm, Â’i golau llwm Gaeafol, Yn gysgod dros yr Hendrewen fel carthen, Nes i Chwefror chwincio’i llygaid dros Gwm Lluest. Daw’r dŵr i lawr ond dringwch i fynnu’r tyle tua'i rheadr, Ei chawod gwlybgreigiog, yn pefrio ar binwydd bythfythol (o Ganada ganol y ganrif dwetha), i fynnu heibio'i llethrau hynafol, I eistedd ar ei gorsedd gogoneddus, I gyfarch fy nhwm, cwm fy nghyndeidiau, cwm fy nhalon, Â’r heulwen o'r diwedd yn wmwlch y tai teras mewn goleuni o’r Bwlch i Bwllfa, O Benyrenglyn i Gwm Saerbren, Tylecoch i Ty'n-tyle, Nant Melyn i Nant y Gwyddon. A gwyddom ni ar lawr y Rhondda fawr, taw Penpych yw’r lle gorau I gael hoi fach, i droi yn ôl rhyw gam, ac i wenu ar y clogwyn mwya poblogaidd rownd ffordd hyn am hunlun Instagram. Siôn Tomos Owen
Programme Website