Main content

Bardd Mis Chwefror - Siôn Tomos Owen

Siôn Tomos Owen yn rhannu ei gerdd “#Penpych #Rhondda”.

“#Penpych #Rhondda”

Dwi’n deall pam bo rhai yn stopio’r ochr arall
i arosfan Hen Dre'r Mynydd ac Ystradffernol
ar fynydd y Rhigos,
I fwynhau y Bannau o bell i ffwrdd,
A chanu clôd bob copa
Cyn dyfalu cammau fit-bit Pen-y-Fan.
Er so nhw’n ishte manyn am y vista yn unig
Ond am bo'r fan hufen iâ yn cynnig dishgled
wrth i nhw ddishgwl a sipian yn eu Subarus,
ar ddwrnod clîr, bob hanner awr,
i glywed y Zip Wifrwyr yn sgrechian dros Llyn Fawr.

Ond ger amddiffynfa mynyddog Craig y Llyn
mae cefn cyhyrog bryniau’n gaer o greithiau du
a chwymp gochfelyn sydyn o Benpych,
y cwymp lle godwyd ei henw,
wrth i gadfrigog Rhufeinig wthio Ŷch y werin
dros ei hochrau,
dagrau gwyn yn disgyn lawr ei bochau,
Bellach Nant yr Ychen sy’n yma i’n hatgoffa.
Nant Berw Wion sy’n llawcio’r llif yn ei anterth
I uno nant Nant Selsig â Nant y Gwair
yn nghesail Blaencwm,
Â’i golau llwm Gaeafol,
Yn gysgod dros yr Hendrewen fel carthen,
Nes i Chwefror chwincio’i llygaid dros Gwm Lluest.

Daw’r dŵr i lawr ond dringwch
i fynnu’r tyle tua'i rheadr,
Ei chawod gwlybgreigiog,
yn pefrio ar binwydd bythfythol
(o Ganada ganol y ganrif dwetha),
i fynnu heibio'i llethrau hynafol,
I eistedd ar ei gorsedd gogoneddus,
I gyfarch fy nhwm,
cwm fy nghyndeidiau,
cwm fy nhalon,
Â’r heulwen o'r diwedd
yn wmwlch y tai teras mewn goleuni
o’r Bwlch i Bwllfa,
O Benyrenglyn i Gwm Saerbren,
Tylecoch i Ty'n-tyle,
Nant Melyn i Nant y Gwyddon.
A gwyddom ni
ar lawr y Rhondda fawr,
taw Penpych
yw’r lle gorau
I gael hoi fach,
i droi yn ôl rhyw gam,
ac i wenu
ar y clogwyn mwya poblogaidd
rownd ffordd hyn
am hunlun Instagram.

Siôn Tomos Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

11 o funudau