Episode details

Available for over a year
Mae ’na ferched sydd wedi gwirioni; rhai gwragedd sy’n rhannu obsesiwn eu gwŷr a’u gwaed yn eu cario i bob gêm. Ac mae ’na famau’n addoli wrth allor y bêl. Ond y bechgyn – a’u tad – yw mynaich eithafol tŷ ni. Y ni sy’n cael rhyddid i ddilyn y ffydd. Aberthu’n teuluoedd ac ysgol a gwaith; dilyn y daith a’i droeon di-hid i syllu ar y duwiau dros dro. A’r tadau a’u meibion, o’n pentref bach ni, a gafodd y fraint o bererindota i Boredeaux. Ni’r dynion wnaeth wasgu’n ddifeddwl i fws - heb fwgwd i fygu ein sgwrsio iach, na gofal ond cyrraedd y gêm. * A Bordeaux, Bordeaux - i dad a mab mae’r cof yn rhydd a Bale o hyd yn hollti’r awyr goch. Bordeaux, Bordeaux - mae’r wyrth o rannu’r wefr yn fyw – a’r anthem fydd yn emyn croch i dad a’i fab am byth. * Eleni ni fydd bws na thaith. Y tadau fydd yn gaeth i’w tai, a rhai efallai’n gwylio’n sied yr ardd. Ond hei, pa ots? Mi fydd yna rannu gwefr o hyd - i dad a mab, neu fab a’i fam; i deulu crwn ein cartref bler wrth ddilyn duwiau’r bêl. Ein braint fydd rhannu’r profiad prin; y perthyn fydd y peth. Ystafell fyw a’r sgrin yn allor rad. Bydd hen wlad ein mamiaith yn annwyl i ni a’r anthem yn canu o hyd. Gwion Hallam
Programme Website