Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Coedwig gan Judith Musker Turner

Bwrw Golwg

Available for over a year

Coedwig i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2020 Mae’n aeaf yn y goedwig, y gaeaf oeraf a welwyd erioed gan y prennau llwyd sy’n sefyll yn stond, mewn rhesi difesur ar y llethrau llwm fel torf o gyrff noeth yn y niwl. Mae hi’n ddistaw, heb ochenaid na si, ac nid oes un chwa o wynt i gynhyrfu sudd eu gwythiennau sych nac i ddeffro’r un ddeilen grin i ffarwelio golau gwan y dydd. Mae hi’n nosi, ac ym mhylni min y nos mae streipiau dryslyd y brigynnau main yn rith o freichiau uwchben düwch y pridd yn ymestyn yn erfyniol i’r byd. Does neb yn y goedwig. Ond heno, gadawn gysur yr aelwyd dwym a down gyda’n gilydd rhwng y prennau mud, gyda gwres ein cyrff a’n canhwyllau claer i fywiogi’r llonyddwch, ac mae fflach y fflamau’n deffro atgof hen ac mae’r coed yn rhynnu. Clywn sŵn ein sibrydion fel egin cyntaf y gwanwyn, a chofiwn bleser y misoedd mwyn, pan oedd y goedwig mor brysur â ffair, llawn bwrlwm bywyd a blagur yn byrstio, gwreiddiau’n tyrchu a sugno’n farus o’r pridd, ac ymgodymu didostur y glasbren yn ei ras i gyrraedd ffafr yr haul. Angof oedd creithiau’r rhisgl dan duswau’r dail newydd, a daethom yn ddigymell yn llu i edmygu’r gogoniant, â’n llygaid yn osgoi’r cysgodion. Ond heno, yn noethni’r gaeaf er gwaethaf yr oerfel bythol gynyddol down yn ôl â’n llygaid ar agor, down yn ôl, yn sobor, at ein coed.

Programme Website
More episodes