Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Manon Awst - Breuddwydion pebble-dash

Lisa Gwilym yn Cyflwyno...

Available for over a year

Rhed, paid ag edrych ar y maes domestig a'i wyneb pebble-dash. Glyna dy drwyn i'r ffôn fel rhyw drôn yn mynd am dro. Ar draws y maes llwyd mewn ffrog no-ffrils ti'n cysgu - watscha ddisgyn! Y croen sych ar dy gefn fel plisgyn a'r bargeinion yn hel yn nyfnderoedd dy fag plastig. Does na'm amser am goff ac mae popeth ar y stryd 'di arafu i stop, y shutters ar gau ar ffenest pob siop. Dy amser di'n llifo'n wag fel newsfeed, a phopeth yn teimlo'n stici, yn llethol o ddi-hid. Ond mae'r pebble-dash yn tyfu fesul milltir, yn cydio fel sment am dy freuddwydion. - Manon Awst

Programme Website
More episodes