Episode details

Available for over a year
(ni all ysgolion cyfrwng Llydaweg Diwan oroesi heb ymdrechion cyson gan rieni a chymdeithasau i godi arian ac yn ddiweddar un ffordd o godi arian oedd drwy dyfu sialóts) I’r cae cyrhaedda’r tractor â’r tir i’w fraenaru `to; mae dosbarth yn ailagor `rôl gwyliau hir dan glo. Daw plant lle bu plant o’u blaen dymor ar dymor yn dod, a haid o wylanod a brain i wledda ym mwyty’r rhod. Nid yn lifrai y Llydaweg y daw’r gweithwyr tir drwy’r glaw, ond gosod amod fel dameg i gadw chwyn y Ffrangeg draw a wneir yn Diwan o hyd fel y rhesi cledrau du, y rhesi plastig sy’n grud i’r sialóts gael tyfu’n ffri. Nawr fe dyf y rhain yn drwch, yn filoedd o bennau iach, lle `slawer dydd bu dim ond llwch mewn cae a deimlai mor fach. Y pennau iach hyn, bob un, cnydau cyfoethog o hyd, pan ddaw’r gloch bob bore llun, sy’n cyfoethogi ein byd. A’u cân nhw yw’r cynhaeaf, pan ddaw eto’r gweithwyr tir i gasglu drwy fis Gorffennaf, geiniogau o elw, wir. Bu colli tir ac nawr ni thyf yr iaith fel gwnâi, ond sdim ots! Fe ddaw’r Llydaweg nôl yn gryf, maes o law, drwy’r holl sialóts. Aneirin Karadog
Programme Website