Main content

Aneirin Karadog - Sialóts

Aneirin Karadog yn trafod Sialóts yng nghefn gwlad Llydaw

(ni all ysgolion cyfrwng Llydaweg Diwan oroesi heb ymdrechion cyson gan rieni a chymdeithasau i godi arian ac yn ddiweddar un ffordd o godi arian oedd drwy dyfu sialóts)

I’r cae cyrhaedda’r tractor
â’r tir i’w fraenaru `to;
mae dosbarth yn ailagor
`rôl gwyliau hir dan glo.

Daw plant lle bu plant o’u blaen
dymor ar dymor yn dod,
a haid o wylanod a brain
i wledda ym mwyty’r rhod.

Nid yn lifrai y Llydaweg
y daw’r gweithwyr tir drwy’r glaw,
ond gosod amod fel dameg
i gadw chwyn y Ffrangeg draw

a wneir yn Diwan o hyd
fel y rhesi cledrau du,
y rhesi plastig sy’n grud
i’r sialóts gael tyfu’n ffri.

Nawr fe dyf y rhain yn drwch,
yn filoedd o bennau iach,
lle `slawer dydd bu dim ond llwch
mewn cae a deimlai mor fach.

Y pennau iach hyn, bob un,
cnydau cyfoethog o hyd,
pan ddaw’r gloch bob bore llun,
sy’n cyfoethogi ein byd.

A’u cân nhw yw’r cynhaeaf,
pan ddaw eto’r gweithwyr tir
i gasglu drwy fis Gorffennaf,
geiniogau o elw, wir.

Bu colli tir ac nawr ni thyf
yr iaith fel gwnâi, ond sdim ots!
Fe ddaw’r Llydaweg nôl yn gryf,
maes o law, drwy’r holl sialóts.

Aneirin Karadog

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau