Episode details

Available for over a year
«Wylit, wylit...» a welaf heno yn pontio pob haf yn ôl hyd at chwe deg naw, hyd weiniad cledd y deunaw, y deunaw nas adwaenir o dan ganrifoedd o dir - llu a welai’n Llyw Olaf a’i goron e’n gaer un haf… Gwelaf, mi welaf ei wallt yn nhyrau geiriau Gerallt: ôl ei wae ymhob blewyn, gwaed y gad mewn llygaid gwyn, neb o wyneb arweinydd, hwyl i dorf mewn golau dydd ar bolyn y rhaib olaf; heb fri daw’n T’wysog ni’n gnaf. Gwelaf, gwelaf hyn i gyd; ril o haf Carlo hefyd a’i arfwisg yng Nghaernarfon yn hawlio toll y wlad hon. Ond un dyn o hyd yw e, boi hirwyntog y breintie, mab i fam y bu i foment o swm mawr ei roi’n semént ein cof byw. Nawr caf bont, geiriau’n rhaffau ar draphont o lan i lan a luniant i’n ceir (a Gerallt a’i cant) fynd drosti hi’n ddiwahardd. Trown hi’n bont o eiriau’n bardd i groesi’r Hafren `leni yn gân well i’n T’wysog ni. Aneirin Karadog
Programme Website