Episode details

Available for over a year
Llydaẅr Go Iawn Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn nad yw’n drysu rhwng ei Le na’i La wrth dalu am droli llawn o Ffrangeg yn yr archfarchnad leol? Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn sy’n enwi ei gi yn gwenn ha du ac a garia garlwm ar ei galon i bobman, yn ŵr balch? Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn sy’n lico halen yn ei fenyn a menyn ar bob dim? Ga’ i? Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn sydd mor gartrefol ar dractor mewn cae shalots ag yw e â gwymon at ei geseilau wrth hela abelonis? Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn os oes gen i winwns ar y wal a gŵn nos breton streips? (ail-ddychmygiad Jean Paul Gautier, wrth gwrs.) Ond os dechreua i siarad yr iaith ryfedd yna sydd wedi ffosileiddio yn ein cyfenwau yn Queginer, Dantec, Tanguy a Caradec; os dechreua i siarad yr hen eiriau yna y dywedodd tad-kozh nad oedd mwy o werth iddyn nhw na’r tatws yn y pridd ac arddel yr iaith a aeth ac a ddaeth o ddyddiau’r Gododdin ac sy’n dal i guddio mewn ambell gilfach, ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn? Aneirin Karadog
Programme Website