Episode details

Available for over a year
‘Pan Fyddan Ni yn Symud’, Llys Arfon 2019. Yn ‘Och!’ a hyff, awn yn chwys i bacio’n bydoedd mewn bocsys – pacio’n tapia’ Cowbois llwch mewn hen dudalenna’ Barddas a lapio dodrefn rhad a brau mewn crysa’-t Cymdeithas a phacio’n pryderon sy’n bigau ar eithin a’r petalau melynion yn ysu blaguro ers meitin - a phacio’n lluniau du a gwyn i’w troi, mewn tro, yn lluniau lliw a fodca stêl hwyr nos Sul yn rysêit blêr i lywio’n byd. Ein hiaith ein hunain ‘rhyd y walia’n greithiau, yn fflamau – ai ffliwc hen swyn sy’n gwasgu’n dau fel dafnau plu drwy dwll y clo ynta fel’na’m gwnaed ni a fel hyn ‘dan ni ‘fod?
Programme Website