Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

TREIAL ELIFFANT - MIHANGEL MORGAN

Geraint Lloyd

Available for over a year

Treial Eliffant (Cynhelid achosion llys yn erbyn anifeiliaid yn aml iawn yn yr oesoedd canol. Dygwyd creaduriaid megis moch, mulod, llygod, buchod a phryfed, hyd yn oed, o flaen “eu gwell”. Er i’r arfer hwn ddod i ben erbyn y ddeunawfed ganrif, yn America ar Ionawr 4, 1903, dienyddiwyd eliffant o’r enw Topsy. Fe’i cyhuddwyd o fod yn “eliffant drwg”, er na chynhaliwyd prawf yn ei herbyn mewn gwirionedd, a phenderfynwyd ei dienyddio. Er mwyn ei lladd bwydwyd gwenwyn iddi, fe’i trydanwyd ac fe’i tagwyd – y trydan a’i lladdodd hi yn y diwedd. Ffilmiwyd y digwyddiad ofnadwy hwn. Yr eliffant yw symbol y Blaid Weriniaethol yn America.) O’r holl anifeiliaid yn y sw i gyd Tydi Topsy sy’n creu trafferth o hyd. Maen nhw’n dweud dy fod wedi lladd un neu ddau, Felly, rhaid cynnal prawf, er gwir neu gau. A dyma ti’n sefyll o’n blaenau ni’n awr, Yn llwyd i gyd ac yn glustiau mawr. Ry’n ni Americanwyr yn hoff o ddial, A dyna pam ry’n ni’n cynnal treial. Er mwyn gweithio ma’s pwy sydd ar fai, A chanfod y gwir, fwy neu lai. Nawr te, Mr Reilly, dywedwch i ni, Os cofiwch yn iawn, be’ ddigwyddodd i chwi? “Mae’r cof yn pallu, mae’r cyfan yn fwg, ond rwy’n eitha siwr roedd e’n rhywbeth drwg. Ac er nad wy’n ffyddiog, cant y cant, Y taeog, rwy’n credu, oedd yr eliffant. Dwi ddim yn cofio’r lleoliad na’r awr Ond roedd yr ymosodwr yn greadur mawr. A dyna’r peth nawr, o flaen y llys. ‘Co dyna hi, lle rwy’n pwyntio fy mys.” Ie, dyna chi Topsy, y paciderm ewn. A dyma’r tyst nesa. Dewch i mewn. Nawr Mr Murphy, dywedwch yn blaen Am eich profiad ofnadw, ewch ymlaen. “Roedd hi’n noson ddychrynllyd dywyll bol buwch A finnau’n betrus...” Siaradwch yn uwch! “A finnau’n betrus fel deryn mewn llaw, fe’m gwthiwyd o’r cefn ac fe gwmpes mewn baw A Topsy a’m gwthiodd, o hynny rwy’n siwr. Dwi’n hynod o nerfus, ga’i ddiferyn o ddwr?” Diolch Mr Murphy am eich tystiolaeth glir. Bob yn gam ry’n ni’n nesáu at y gwir. Mae’r cyhuddwyr yn onest, rhaid derbyn eu gair. I’r ddalfa â Topsy, heb siwgr, heb wair. Mae hi’n amlwg yn euog, wath ddywedodd hi ddim. Mae’n haeddu’r gosb eitha, ddidrugaredd a llym, Sef gwenwyn a thrydan a rhaff am ei llwnc A chlymu’i choesau, ei phen a’i thrwnc. Wel, dyna ti Topsy, serfia di’n reit. Fe’th gafwyd yn euog. Rhwymwch hi’n deit. Ac fe laddwyd yr hen Dopsy o flaen criw o bobl. Er gwaetha’r creulondeb roedd hi’n farwolaeth nobl. Mihangel Morgan

Programme Website
More episodes