Main content

TREIAL ELIFFANT - MIHANGEL MORGAN

Cerdd gan Mihangel Morgan - Treial Eliffant

Treial Eliffant

(Cynhelid achosion llys yn erbyn anifeiliaid yn aml iawn yn yr oesoedd canol. Dygwyd creaduriaid megis moch, mulod, llygod, buchod a phryfed, hyd yn oed, o flaen “eu gwell”. Er i’r arfer hwn ddod i ben erbyn y ddeunawfed ganrif, yn America ar Ionawr 4, 1903, dienyddiwyd eliffant o’r enw Topsy. Fe’i cyhuddwyd o fod yn “eliffant drwg”, er na chynhaliwyd prawf yn ei herbyn mewn gwirionedd, a phenderfynwyd ei dienyddio. Er mwyn ei lladd bwydwyd gwenwyn iddi, fe’i trydanwyd ac fe’i tagwyd – y trydan a’i lladdodd hi yn y diwedd. Ffilmiwyd y digwyddiad ofnadwy hwn.

Yr eliffant yw symbol y Blaid Weriniaethol yn America.)

O’r holl anifeiliaid yn y sw i gyd
Tydi Topsy sy’n creu trafferth o hyd.

Maen nhw’n dweud dy fod wedi lladd un neu ddau,
Felly, rhaid cynnal prawf, er gwir neu gau.

A dyma ti’n sefyll o’n blaenau ni’n awr,
Yn llwyd i gyd ac yn glustiau mawr.

Ry’n ni Americanwyr yn hoff o ddial,
A dyna pam ry’n ni’n cynnal treial.

Er mwyn gweithio ma’s pwy sydd ar fai,
A chanfod y gwir, fwy neu lai.

Nawr te, Mr Reilly, dywedwch i ni,
Os cofiwch yn iawn, be’ ddigwyddodd i chwi?

“Mae’r cof yn pallu, mae’r cyfan yn fwg,
ond rwy’n eitha siwr roedd e’n rhywbeth drwg.

Ac er nad wy’n ffyddiog, cant y cant,
Y taeog, rwy’n credu, oedd yr eliffant.

Dwi ddim yn cofio’r lleoliad na’r awr
Ond roedd yr ymosodwr yn greadur mawr.

A dyna’r peth nawr, o flaen y llys.
‘Co dyna hi, lle rwy’n pwyntio fy mys.”

Ie, dyna chi Topsy, y paciderm ewn.
A dyma’r tyst nesa. Dewch i mewn.

Nawr Mr Murphy, dywedwch yn blaen
Am eich profiad ofnadw, ewch ymlaen.

“Roedd hi’n noson ddychrynllyd dywyll bol buwch
A finnau’n betrus...” Siaradwch yn uwch!

“A finnau’n betrus fel deryn mewn llaw,
fe’m gwthiwyd o’r cefn ac fe gwmpes mewn baw

A Topsy a’m gwthiodd, o hynny rwy’n siwr.
Dwi’n hynod o nerfus, ga’i ddiferyn o ddwr?”

Diolch Mr Murphy am eich tystiolaeth glir.
Bob yn gam ry’n ni’n nesáu at y gwir.

Mae’r cyhuddwyr yn onest, rhaid derbyn eu gair.
I’r ddalfa â Topsy, heb siwgr, heb wair.

Mae hi’n amlwg yn euog, wath ddywedodd hi ddim.
Mae’n haeddu’r gosb eitha, ddidrugaredd a llym,

Sef gwenwyn a thrydan a rhaff am ei llwnc
A chlymu’i choesau, ei phen a’i thrwnc.
Wel, dyna ti Topsy, serfia di’n reit.
Fe’th gafwyd yn euog. Rhwymwch hi’n deit.

Ac fe laddwyd yr hen Dopsy o flaen criw o bobl.
Er gwaetha’r creulondeb roedd hi’n farwolaeth nobl.

Mihangel Morgan

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o