Episode details

Available for over a year
Siswrn Dafydd Williams, Aberystwyth (Gŵr ifanc a aeth ar goll ar y paith ym Mhatagonia, oriau’n unig ar ôl iddo gamu oddi ar fwrdd y Mimosa. Roedd o'n un o adlonwyr ffraeth y fordaith. Daethpwyd o hyd i’w gorff ger Llyn Mawr rai blynyddoedd yn ddiweddarach a’i adnabod am fod ei siswrn teiliwr ar ei weddillion. Hyd heddiw gelwir y lle hwnnw yn Bant yr Esgyrn.) Dangosa imi, lefnyn bach, y ffordd at afon Camwy’n fyw ac iach; anela flaen dy ddwygoes fain i ’nhywys gam wrth gam drwy’r llwyni drain. Mi fapiwn lwybrau dros y paith â’th gwmpawd arian, hyd at ben y daith, nes nyddu patrwm cywrain, clir drwy frethyn bryniau’r môr a thonnau’r tir. Datoda bwythau’r henwlad bell, mi frodiwn wedyn Wladfa newydd, well; “Ffarwel i Aber…”, codaf law ar Ben Maes Glas a’r castell hwnnw draw! Cei rwygo’r bogail ar ei hyd (mae rheitiach mynwes yma ’mhen draw’r byd!) a chlymwn wreiddiau newydd sbon yng nghynfas lân y Batagonia hon. Dangosa imi, lefnyn bach, pa ffordd i gyrraedd afon Camwy’n iach; paid torri hyd fy nhaith fan hyn rhag i’r hen gychwr hwylio cyn y bore gwyn. Esyllt Nest Roberts
Programme Website