Siswrn Dafydd Williams - Esyllt Nest Roberts
Cerdd gan Bardd y Mis ar raglen Geraint Lloyd - Mehefin 2017
Siswrn Dafydd Williams, Aberystwyth
(Gŵr ifanc a aeth ar goll ar y paith ym Mhatagonia, oriau’n unig ar ôl iddo gamu oddi ar fwrdd y Mimosa. Roedd o'n un o adlonwyr ffraeth y fordaith. Daethpwyd o hyd i’w gorff ger Llyn Mawr rai blynyddoedd yn ddiweddarach a’i adnabod am fod ei siswrn teiliwr ar ei weddillion. Hyd heddiw gelwir y lle hwnnw yn Bant yr Esgyrn.)
Dangosa imi, lefnyn bach,
y ffordd at afon Camwy’n fyw ac iach;
anela flaen dy ddwygoes fain
i ’nhywys gam wrth gam drwy’r llwyni drain.
Mi fapiwn lwybrau dros y paith
â’th gwmpawd arian, hyd at ben y daith,
nes nyddu patrwm cywrain, clir
drwy frethyn bryniau’r môr a thonnau’r tir.
Datoda bwythau’r henwlad bell,
mi frodiwn wedyn Wladfa newydd, well;
“Ffarwel i Aber…”, codaf law
ar Ben Maes Glas a’r castell hwnnw draw!
Cei rwygo’r bogail ar ei hyd
(mae rheitiach mynwes yma ’mhen draw’r byd!)
a chlymwn wreiddiau newydd sbon
yng nghynfas lân y Batagonia hon.
Dangosa imi, lefnyn bach,
pa ffordd i gyrraedd afon Camwy’n iach;
paid torri hyd fy nhaith fan hyn
rhag i’r hen gychwr hwylio cyn y bore gwyn.
Esyllt Nest Roberts
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()
Bardd Mehefin 2017 - Esyllt Nest Roberts—Gwybodaeth
Esyllt Nest Roberts yw bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Mehefin 2017.






