Episode details

Radio Cymru,1 min
Cerdd gan bardd y mis Idris Reynolds i Bore Cothi 10.02.17 Anthem Rygbi Cymru
Bore CothiAvailable for over a year
Anthem Rygbi Cymru Mae hen wlad y sgrymiau yn annwyl i mi, Gwlad mewnwyr a maswyr, asgellwyr o fri, Y cochion eu crysau a’r cochion eu gwa’d, Drwy’u doniau diffiniant ein gwlad. Wales, Wales, pleidwyr y’m dros Wales, O’r Stadiwm fawr i lawr i’r Bae O bydded i’r hen gêm barhau. Hen Gymry’r bêl hirgron gefnogant fan hyn Pob Tipric a Liam a phob Alun Wyn, Ym mhridd y rhanbarthau mae’r gwreiddiau mor gry’, Maent ddewrion, enwogion i ni. Os collwyd y llynedd mae dial ar droed Ac olwyr y Cymru mor fyw ac erioed, Ni ildiant un fodfedd ar feysydd eu cad, Fe roddant bob dim dros y wlad.
Programme Website