Episode details

Available for over a year
Gwisgodd ei grys West Ham er ei fod yn rhy fach yn barod i ddangos fod yr anrheg pen-blwydd yn plesio. Daeth â’i albwm sticeri fel y gwelai mor ddiwyd y bu. Bu’n ymarfer, yn gyrru’i fam o’i cho‘ â swn y bêl yn dyrnu talcen y ty. A neithiwr, gwyliodd y gêm fel bod ganddo sgwrs. Ond ar ei ben ei hun ar fainc yn y parc y treuliodd y bore yn magu’r bêl yn ei gôl. Gwennan Evans (Y Ffoaduriaid) 10
Programme Website