Episode details

Available for over a year
Dwi'n aml yn eu dringo fesul dwy. Ar frys i fynd ymlaen, medd rhai, yn fawr o giwiwr – ac o'r ysgol ddaeth y clwy. Roedd stafell ddosbarth 'Nhad 'mhen draw'r ail lawr a thestun sbort oedd hyd ei gamau bras: yr 'hirgoes' oedd ei enw ar y buarth. Gallai fod yn sychlyd, weithiau'n gras wrth lolyn, eto nid oedd yn ei gyfarth ddannedd. Ac fel mab i athro uwchradd, pleidiol oeddwn i'r penbyliaid, awn yn is i'r seler i gael bod yn gydradd, honni dod o gyff gwahanol iawn. Ond roedd fy mhytiau coesau, 'gen i go, yn dringo fesul dwyris, fel gwnâi o. Myrddin ap Dafydd (Tir Mawr) 10
Programme Website