Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

TOUR DE MYFS

Bore Cothi

Available for over a year

Er bod gwynt o Fôr Iwerddon a thywod oer y lan yn chwipio i’w hwynebau bron nes pedlo yn y fan; er bod yr allt i Lithfaen ar ei serthaf, hiraf un, a’r bar yn Aberdaron yn bellach na phen draw Llŷn; er bod rhwng Bermo ac Aber y rhiw yn Borth yn straen, yn codi i’r entrychion fel yr un yn Abergwaun; er bod ar hyd Sir Benfro bellach glais ar sawl boch tin a choesau’n drwm a diffyg mawr ar ambell i ben-glin; er bod y pyncjiars hefyd wrth eu cannoedd yn cael sbri a gêrs a tsiaens yn llithro; er y llethrau uwch y lli a’r llwybrau o Borth Einion, i Gwm Tawe, i Gaerdydd, i sgwâr Cas-gwent a’r Tour yn dal i rygnu fesul dydd, yn gefn am bum can milltir, a’u beics yn boen bob un, i’w cadw efo’i gilydd i’r pen draw roedd Myfs ei hun.

Programme Website
More episodes