Episode details

Available for over a year
Cip Sydyn (Ar ôl gweld afonydd Cymru wedi'u mapio'n ddigidol) Ar fap fe welais y wlad mewn düwch Heb iddi arfordir na ffurf na ffin. Os ydoedd o gwbl yn y tywyllwch Ni theimlwn iaith Eryri ar fy min Na'i phenrhynnau'n estyn o'r dwr llwyd, stond Amdanaf. Yno'n ei habsenoldeb Dychmygais ei phobol hithau - dim ond Swigod mewn cors na fyn ddod i'r wyneb. Nes i fellten hollti trwy'i holl feinwe, A phwerdy Pumlumon godi'n dwr; Gwefr ei gwythiennau fel cân y bore A'i gwlith yn ddisglair. A gwelais drwy'r stwr Rhwng Alaw a Gwy, Alyn a Chleddau Am eiliad Gymru'n boddi mewn golau. Osian Rhys Jones 10/10
Programme Website