Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Mehefin 2016

Bore Cothi

Available for over a year

Pan faglodd Ian Rush, yn goesau i gyd, y bêl i’r rhwyd yn ôl yn ‘91, pan gurodd Cymru fach bencampwyr byd, mi neidiais i i’r awyr gyda’r dyn... ond roedd y lôn rhwng Aber a Chaerdydd yn lôn o ddagrau yn 2003, a Rwsia wedi dryllio breuddwyd ffydd – doedd ’58 yn ddim ond rhif i mi. Ond daeth yr awr, pryd bydd yr un ar ddeg yn camu i’r maes, a gwn, drwy’r fonllef lon, bod pob un deigryn, gwg, a gwaedd a rheg yn ernes am yr union eiliad hon. Mae gwlad yn dal ei hana’l unwaith ‘to, A’r reff ar fin chwibanu yn Bordeaux.

Programme Website
More episodes