Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

A’r Gymraeg a wylodd...

Taro'r Post

Available for over a year

A’r Gymraeg a wylodd ... Ac meddai ... ‘Gollish i hen ffrind heddiw. O’n i’n ei nabod o O’i grud, A thyfodd yntau I’n nabod innau, Yn ôl drwy eonau Fy chwedlau i. Gollish i hen ffrind heddiw, Oedd yn gwneud i mi wenu, Oedd yn gwybod lle dwi’n goglais, Oedd yn tynnu arna’i A gwneud i mi deimlo Yn gynnes, gynnes. Gollish i hen ffrind heddiw, Oedd yn fy nhroi Rownd ei fys bach, Oedd yn gwneud i mi deimlo fel brenhines Yn fy slipars, A nghyrlars Yn gwtj ar y soffa’n Gwatjiad ffilm. Gollish i hen ffrind heddiw. Efo’n gilydd fe wylon ni Yn anwes hallt, Y naill yng ngwallt y llall. Ond roedd o’n fy nallt i A thrwy’r cwbl Yn gwybod Be o’n i’n feddwl. Am heddiw, ’Dyw ngeiriau ddim yn goglais, ’Sdim tro yn fy ymadrodd, Mae’r soffa’n wag A’r sgrin yn fud, Oherwydd heddiw Fe gollish i hen ffrind.

Programme Website
More episodes