Episode details

Available for over a year
Pietà – Michelangelo Tu ôl i gondom gwarchodol y persbecs eistedda’r wyryf â chorff ei mab yn ei chôl. Mewn eglwys a dinas sy’n drewi o gelfyddyd hon yw seren y sioe. Down yn ein miloedd i wirioni ar dangnefedd y marmor; y graig a wnaethpwyd yn gnawd gan glyfrwch dwylo dyn. Ymhyfrydwn ym mhlygiadau ei dillad a chynildeb ei hing a diwinyddiaeth awgrymog y dweud. Gydag un llaw, gafaela’n dynn yn ei mab tra bo’r llall yn ei offrymu i’r byd a’i hwyneb yn lân a dihalog. Sancta Maria. Ceisiwn dynnu llun, ond ni all hwnnw wneud cyfiawnder â hi felly ymlusgwn tua’r loddest nesaf a gadael i’r forwyn ddioddef yn weddus. Ond nid marmor mo cnawd. Byddai’r Fair go iawn yn hŷn ac yn hyll fel galar a’i dwylo’n duo wrth iddi bawennu’r swp gwaedlyd a fagodd ar ei bron. Byddai’r un a suddodd i’w gliniau ar Golgotha yn udo fel bleiddast ac yn dwrdio’i mab am dynnu pobol i’w ben. Byddai hi, Mam yr holl famau yn poeri rhegfeydd at y Duw a’i treisiodd ac a gymerodd ei mab cyn pryd. Byddai hi, y cnawd a wnaethpwyd yn graig yn chwalu’r persbecs ac am waed bob un ohonom sy’n ymdrybaeddu yn yr aberth ac sy’n awchu’n farus am waed ei hogyn hi.
Programme Website