Episode details

Available for over a year
Y Mannwyd Daeth Gwanwyn wedi’r Gaeaf llwm, yr hirlwm a aeth heibio, ond uwch fy mhen mae cwmwl llwyd, mae’r Mannwyd wedi taro. Rwyf yn y tŷ mewn dressing gown yn llawn hylifau afiach a bocsys tisiws ym mhob man. Rwy’n teimlo’n wan fel cadach. Rwyf yn fy ngwely’n chwysu’n stecs, a’r kleenex bron ar ddarfod a minnau’n amau bob rhyw awr fod y diwedd mawr ar ddyfod. Mae ’mhen yn pwyso ugain stôn, mae afon hyd fy nhrawswch, ni welwch fyth er crwydro hyd y byd y ffasiwn fadwch. A minnau’n gaeth i boenau’r clwy pendronaf pwy ga’i feio. Pwy bynnag oedd, caiff fynd i’r diawl y sawl a wnaeth fy heintio. Ond gyda help fy radio fach a jioch go iach o wisgi fe ddof drwy’r Mannwyd gwaetha ’rioed â Geraint Lloyd yn gwmni.
Programme Website