Episode details

Available for over a year
Cof Cenedl Gawn ni dwrio drwy’r archif a gloddesta fel pethau hurt ar drugareddau’r hen bobol? Gawn ni wirioni’n boitsh ar ryw stori ddim byd ac ailddysgu ymadroddion o’n plentyndod? Gawn ni alw’r radio’n ‘weirlas’? Gawn ni feddwi ar ffraethineb ein neiniau a dawn dweud yr hen deidiau cyn sobri’n sydyn ar ganol gneud panad wrth i leisiau’r meirwon roi cig a gwaed ar esgyrn ein hanes? Gawn ni anwylo ein ’nialwch a hidio dim am y llwch na’r sawl sy’n ein cyhuddo o fod yn hen ffasiwn fel het? Gawn ni hiraethu heb gywilydd am lefydd na welsom erioed? Gawn ni ymdrybaeddu fel moch yn y storws sydd ym mhob stori, yn y dweud mawr sy’n y siarad mân? Gawn ni feddwi ar donfeddi ddoe a gweld y gwir wrth glywed y geiriau? Dewch, dewch i dwrio drwy’r archif. Rydan ni wedi dirwesta’n rhy hir tra’n llowcio sothach pobol eraill.
Programme Website